Cei Caerfyrddin

button-theme-canalCei Caerfyrddin

Efallai mai gwedd ddigon dibwys sydd i’r y cei ar lan afon Tywi erbyn hyn, ond dyma un rheswm i gymuned drefol  ddatblygu yma, y dref gyntaf yng Nghymru yn ôl y sôn. Moridunum neu Maridunum, sef caer ger y môr, oedd enw Rhufeinig y dref yn yr ail ganrif. Er bod y môr ychydig bellter i ffwrdd, gallai llongau deithio i fyny’r afon a chludo nwyddau i’r dref.

Teithiodd Gerallt Gymro ac Archesgob Caergaint i fyny’r afon mewn cwch a chyrraedd Caerfyrddin ar 20 Mawrth 1188, yn ystod eu taith trwy Gymru yn recriwtio ar gyfer y drydedd groesgad. Nododd Gerallt bod yr hen dref wedi’i hamgáu gan furiau o frics. Mae rhannau o’r muriau hynny wedi goroesi. Sylwodd hefyd fod y dref wedi’i hamgylchynu gan ddolydd a choedlannau, gan gynnwys fforest drwchus tua’r dwyrain a oedd yn cynnig lloches i’r Cymry.

Dal i lewyrchu a wnaeth porthladd Caerfyrddin wedi ymadawiad y Rhufeiniaid. Yn ystod yr oesoedd canol roedd yn Borthladd Stapl – sef porthladd â hawl i allforio gwlân a nwyddau sylfaenol eraill.

Adeiladwyd y muriau sy’n weddill yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cynyddodd masnach y porthladd y sylweddol yn y 1840au (ddegawd cyn cysylltu Caerfyrddin â rhwydwaith y rheilffordd). Ymateb y Bristol Steam and Navigation Company yn 1846 oedd darparu stemar arall i deithio rhwng Caerfyrddin a Bryste. Roedd gofid ar y pryd bod y peiriannydd Isambard Kingdom Brunel ar fin ynysu’r porthladd trwy adeiladu pont rheilffordd a’i bwa ar y gorau yn 12 medr (40 troedfedd) –  fwy neu lai lled y cwch rhodli Phoenix â oedd yn teithio’n gyson i Gaerfyrddin.

Roedd tref Caerfyrddin yn dal i gael ei hystyried yn borthladd yn y 1860au ond roedd ei llewyrch yn cael eu bygwyth gan borthladdoedd arfordirol eraill lle y gallai llongau mwy o faint ddadlwytho. Rhwng Gorffennaf 1872 a Mehefin 1873, £66 oedd cyfanswm y trethi a’r tollau a gasglwyd ym mhortladd Caerfyrddin o’i gymharu â swm o £1,440 yn Llanelli. Yn y 1930au y dociodd y llongau olaf  yng Nghaerfyrddin.

Roedd traddodiad o adeiladu llongau yn Nghaerfyrddin yn ogystal. Un o’r llongau diwethaf i’w hadeiladu yma – wedi bwlch o ryw ugain mlynedd – oedd Lily, ym mis Gorffennaf 1865. Roedd hi’n 23 medr o ran hyd ac iddi hwylbrenni, rigin sgwner ac injan stêm oedd wedi ei chysylltu â sgriw yrru (propeler dan wyneb y dŵr). Cafodd ei lawnsio ddeufis yn unig ar ôl gosod y cilbren.

Cyfieithiad gan yr Athro Dai Thorne

Cod post: SA31 3JP    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
button_tour_gerald-W Navigation previous buttonNavigation next button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button