Canolfan Tywysoges Gwenllian, Cydweli
Canolfan Tywysoges Gwenllian, Hillfield Villas, Cydweli
Enwyd y ganolfan gymunedol hon ar ôl gwraig a arweiniodd fyddin leol yn erbyn ymsefydlwyr o Normaniaid. Fe’i coffeir hefyd gan yr enw Maes Gwenllian, 1.5km i'r gogledd o Gydweli.
Yn 1135 rhoddwyd hwb i obeithion tywysogion Cymru gan frwydr ger Casllwchwr. Lladdwyd oddeutu 500 o Normaniaid. Gwelodd Gruffydd ap Rhys (c.1090-1137), llywodraethwr Deheubarth (de Cymru), gyfle i yrru’r Normaniaid o'i deyrnas. Teithiodd i’r gogledd i ofyn am gymorth gan ei dad yng nghyfraith, tywysog Gwynedd.
Tra’r oedd i ffwrdd, lansiodd Arglwydd Cydweli, Maurice de Londres, wrthymosodiad. Brwydrodd Gwenllian, gwraig Gruffydd, yn erbyn Maurice. Ymosododd ei byddin ar dref a chastell Cydweli yn 1136. Cawsant eu trechu. Lladdwyd Gwenllian ar lecyn a elwir Maes Gwenllian. Torrwyd ei phen. Lladdwyd un o'i meibion, Morgan, a daliwyd un arall, sef Maelgwn gan y Normaniaid.
Yn ôl y chwedl, mae ysbryd Gwenllian yn dal i grwydro Maes Gwenllian a thref Cydweli, yn chwilio am ei phen, hwyrach.
Cymharwyd Gwenllian gan Gerallt Gymro, ac yntau’n ysgrifennu’n ddiweddarach yn y ganrif, i Penthesilea, Brenhines yr Amasoniaid (a laddwyd gan Achilles pan arweiniodd hi fyddin o ferched i Gaerdroea er mwyn ymosod ar y Groegiaid).
Cofnoda Gerallt hanesyn digrif am Maurice de Londres a gadwai geirw a llawer o ddefaid yn ardal Cydweli. Trefnodd gwraig Maurice i ddau garw marw gael eu llenwi â gwlân. Smaliodd nad oedd ei gŵr yn gallu cadw trefn ar ei geirw. Yn ôl ei wraig roedd y ceirw hyd yn oed wedi dechrau ymosod ar y defaid. I brofi hynny agorwyd y ceirw a dangos y gwlan y tu mewn iddyn nhw. Synnodd Maurice ac anfon ei gŵn hela i ymosod ar y ceirw byw.
Mae’r hanesion hyn yn ymddangos yng nghofnod Gerallt o’i daith trwy Gymru gydag Archesgob Caergaint yn 1188 yn recriwtio i’r drydedd groesgad. Ymwelodd y ddau â chastell Cydweli ac mae’n debygol iddynt dreulio noson yno.
Agorwyd Canolfan Tywysoges Gwenllian ym mis Mai 2001 i ddarparu cyfleusterau ar gyfer chwaraeon a chyfarfodydd.
Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
Côd Post: SA17 4UL Map
Gwefan y ganolfan (Cyngor Tref Cydweli)
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |