Olion Castell Abertawe
Mae’r castell a welir yma wedi’i adeiladu o gerrig. Cafodd ei godi ar safle adeilad o goed a phridd a chodwyd hwnnw, yn ôl pob tebyg, ym mlynyddoedd cynnar y ddeuddegfed ganrif .
Treuliodd Gerallt Gymro ac Archesgob Caergaint noson yn y castell gwreiddiol yn 1188 yn ystod eu taith o amgylch Gymru yn recriwtio ar gyfer y trydydd croesgad. Y bore wedyn, yn dilyn yr offeren, listiodd llawer o wŷr lleol. Roedd gŵr o’r enw Cador yn ei ddagrau wrth iddo egluro ei fod yn rhy hen i listio ond cyflwynodd ddegfed rhan o’i eiddo bydol i’r Archesgob yn gyfraniad i’r groesgad. Ceisiodd faddeuant am hanner ei bechodau. Yn y man dychwelodd gan addo degymu’r gweddill pe câi faddeuant o’i holl bechodau.
Teulu de Braose a drefnodd godi’r castell cerrig yn y drydedd ganrif ar ddeg. Dinistriwyd llawer ohono yn ystod y canrifoedd dilynol yn sgil ymwthiad adeiladau eraill. Credir mai’r tŵr yw’r darn hynaf sydd wedi goroesi. Ychwanegwyd y parapet a’r rhesi o fwâu bychain gan Henry Gower, Esgob Tyddewi, yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Carcharwyd William Crach, gŵr o’r Gŵyr, am ymosod ar Gastell Ystumllwynarth yn 1287 yn ystod gwrthryfel gan y Cymry; achoswyd niwed i Gastell Abertawe yn ogystal. Yn 1290 cafodd William Crach ei grogi’n gyhoeddus ger y castell. Sut bynnag, roedd yr Arglwyddes Mary de Braose wedi gweddïo ar Thomas de Cantilupe, cyn Esgob Henffordd ar ei ran. Wedi iddo gael ei dynnu o’r grocbren, dechreuodd corff William anadlu a symud! Ystyriai’r Arglwydd a’r Arglwyddes de Broeos mai gwyrth oedd hyn a chafodd William ei ryddhau ar yr amod ei fod yn cerdded yn droednoeth i Henffordd i gyfarch i’r esgob ymadawedig; a bu rhaid iddo addo peidio â dychwelyd i ardal Abertawe yn ogystal. Wedi atgyfodiad William, cyhoeddwyd yr esgob yn sant yn 1320 a phriodolwyd amryw wyrthiau eraill iddo. Cyflwynwyd tystiolaeth i’r awdurdodau pabaidd gan William ei hun.
Yn yr ail ganrif ar bymtheg agorwyd gwaith gwydr ar safle’r castell. Bu rhan o’r castell yn garchar yn ystod y ganrif wedyn.
Cyhoeddir y llun trwy gennad Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae’n dangos y castell yn 1967, cyn dymchwel yr adeiladau cyffiniol. Daw o gasgliad Ffotograffau Cofnodion Cenedlaethol Cymru. Swyddfeydd yr Evening Post a’r Herald of Wales a adeiladwyd yn 1912 yw’r prif adeilad a welir yn y llun.
Mae ‘The Mystery of William Crach’ gan Andrew Dulley, 2014 yn un o’r ffynonellau. Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
Cod post: SA1 2AH Map
Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan y CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk
![]() |
![]() ![]() |