Pont Stryd y Bont, Castell Nedd

button-theme-canal sign-out

Pont Stryd y Bont, Castell Nedd

Mae'r bont droed fodern yma yn cyflwyno croestoriad o hanes trafnidiaeth yr ardal wrth iddi groesi afon Castell-nedd, Camlas Tennant, dwy ffordd a rheilffordd. Yn anarferol, enwir y bont ar ôl y stryd a enwir ar ôl y bont!

neath_bridge_and_town_paintingMae disgrifiad o'r bont yn y 1530au yn awgrymu iddi gael ei hadeiladu o bren. Mae’r hanesydd Tony Hopkins wedi awgrymu i’r afon gael ei phontio gyntaf hyd yn oed yn gynharach, rhwng 1262 a 1311.

Mae'r bont garreg tair bwa bresennol yn dyddio o'r 1790au ac fe'i dyluniwyd gan Thomas Edwards. Roedd ei dad William wedi codi’r bont – gyda’r rhychwant hiraf yn Ewrop ar y pryd – ym Mhontypridd. Am ganrifoedd, hwyliodd llongau i fyny'r afon i Gastell-nedd. Roedd llongau llai yn pasio o dan y bont i gyrraedd Aberdulais. Mae'r llun o'r bont a'r dref ar ddechrau'r 19eg ganrif (gyda diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot) yn rhan o baentiad gan Charles Deane.

Addaswyd y cynllun i'r gorllewin o'r bont yn y 1820au i gario’r ffordd dros y gamlas newydd, a adeiladwyd yn breifat gan yr entrepreneur George Tennant.

Old painting of Neath river bridgeNewidiwyd yr ardal eto gydag adeiladu Rheilffordd Castell-nedd ac Aberhonddu yn y 1860au. Enw gorsaf y cwmni, i’r gogledd o’r bont, oedd Castell-nedd Lefel Isel, yna Stryd y Bont Castell-nedd ac yn olaf Glan Afon Castell-nedd. Caeodd yr orsaf ym 1964 ond cadwyd y rheilffordd ar gyfer trenau glo, yn ddiweddarach o Onllwyn. Mae un o lwyfannau'r orsaf wedi goroesi.

Gwnaed newidiadau pellach yn yr ardal yn y 1970au ar gyfer adeiladu ffordd ddeuol yr A465 rhwng y rheilffordd a'r gamlas. Torrodd hyn drwy’r hen ffordd, a daeth y bont yn llwybr di-draffig.

Cyn pontio'r afon, byddai teithwyr yn dynesu’r yn ofidus. Yn eu plith roedd Gerallt Gymro, ar ei daith o amgylch Cymru gydag Archesgob Caergaint ym 1188. Ar ôl gadael Abaty Margam, roedd y grŵp wedi aros i'r llanw trai golli ei gryfder cyn croesi afon Afan. Wedyn, dan arweiniad arglwydd Nedd-Afan, Morgan ap Caradog ab Iestyn, buont yn llywio eu fford heibio’r sugndraethau i gyrraedd afon Castell-nedd. Suddodd ceffyl Gerallt i'r ddaear a bu bron i’r ceffyl ddiflannu. Croesodd y parti yr afon mewn cwch. Roedd Abaty Castell-nedd ar y dde iddyn nhw wrth iddyn nhw barhau ar dir sych tuag at Abertawe.

Gyda diolch i David Michael, o Gymdeithas Hynafiaethol Castell-nedd

Cod post: SA11 1RR    Map

button_tour_gerald-E Navigation previous buttonNavigation next button