Eglwys Abaty Y Santes Fair, Margam
Eglwys Abaty Y Santes Fair, Margam
Mae'r eglwys hon yn meddiannu corff adeilad a fu’n wreiddiol yn eglwys a berthynai i Abaty Margam. Sefydlwyd yr abaty ym 1147, pan dderbyniodd y Sistersiaid dir gan Robert, Iarll Caerloyw ac Arglwydd Morgannwg. Mae cerrig cerfiedig hynafol, sydd bellach yn Amgueddfa'r Cerrig gerllaw, yn dangos bod y safle wedi'i ddefnyddio ar gyfer addoli Cristnogol yn y cyfnod cyn-ganoloesol.
Ymwelodd Baldwin, Archesgob Caergaint, ag Abaty Margam fis Mawrth 1188 wrth deithio o amgylch Cymru i recriwtio ar gyfer y trydydd croesgad. Gydag ef roedd Gerallt Gymro, a gofnododd y daith gyfan.
Ysgrifennodd Gerallt mai Margam oedd y mwyaf hael o’r holl sylfeini Sistersaidd yng Nghymru, a bod Duw yn gwobrwyo’r mynachod am eu lletygarwch i deithwyr a phobl mewn angen trwy sicrhau bod gan yr abaty fwyd pryd bynnag y byddai newyn yn lleol. Un tro yn amser Gerallt ei hun, roedd pobl leol a’r mynachod yn agos at lwgu pan aeddfedodd y cnwd mewn cae oedd yn perthyn i’r abaty fis yn gynnar, gan gynnal y mynachod a’r bobl dlawd nes i’r prif gnydau aeddfedu yn yr hydref.
Yn ddiweddarach daeth yr abaty yn adnabyddus am ei nawdd i feirdd Cymru. Fe'i diddymwyd o dan y Brenin Harri VIII, gan alluogi Syr Rice Mansel o Gŵyr i brynu'r rhan fwyaf o'r ystâd fynachaidd erbyn dechrau'r 1540au. Daeth y tŷ a adeiladodd ar y tir yn sedd y teulu. Cadwodd gorff eglwys yr abaty a'i agor ar gyfer addoliad cyhoeddus. Mae beddrod y teulu Mansel, yn yr eglwys, wedi’i addurno ag alabastr o Benarth a gerfiwyd yn y 17eg ganrif.
Gadawaodd aelodau diweddarach o'r teulu i'r eglwys ddadfeilio. Fe’i hadferwyd rhwng 1805 a 1810, pan ostyngwyd goleddf ac uchder y to er mwyn osgoi difetha’r olygfa o’r orendy gyfagos. Mae’r darlun, trwy garedigrwydd Cymdeithas Hanesyddol Port Talbot, yn dangos yr eglwys yn fuan wedi’r adferiad.
Adnewyddwyd y tu mewn yn yr 1870au a gosodwyd ffenestri lliw (sydd yn dal yn gyfan) gan William Morris a’i Gwmni.
Gallwch weld rhai o feddrodau marmor teulu Mansel, wedi'u cerfio'n gywrain, yn yr eglwys. Maent yn cynnwys beddrod Syr Rice, a fu farw ym 1559.
Gyda diolch i Gymdeithas Hanesyddol Port Talbot am y darlun a’r ffotograff
Cod post: SA13 2TA Map
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |