Safle gwersyll y lluoedd arfog a gwersyll carcharorion rhyfel, Johnstown

button-theme-powSafle gwersyll y lluoedd arfog a gwersyll carcharorion rhyfel, Johnstown

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd gwersyll i’r lluoedd arfog ar dir sydd bellach yn gae rygbi Carmarthen Athletic. Cadwyd carcharorion rhyfel yma am gyfnod o 1944. Dangosir awyrluniau o’r gwersyll yn 1941 (y llun uchaf) a 1944 gyda chaniatâd Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed.

Photo of Ystrad army camp in 1941

Cyn y rhyfel roedd y tir yn rhan o ystad Ystrad. Roedd y plasdy ger ffin ddwyreiniol Coed Ystrad. Ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif cynhelid Sioe Amaethyddol y Siroedd Unedig ar yr ystad. Pan geisiwyd gwerthu’r ystad yn 1909 roedd y safle yn cynnwys parcdir coediog, gerddi pleser, gerddi, tri phorthdy a phum fferm.

Defnyddiwyd gwersyll Ystrad, a gafodd ei sefydlu yn gynnar yn y 1940au, gan y Morlu Brenhinol a chan fataliwn o’r Belgiaid Rhydd. Pan ymosododd lluoedd yr Almaen ar Wlad Belg yn 1940 ffodd rhai Belgiaid o’u mamwlad. Roedd amryw eisoes yn alltud yma cyn dechrau’r rhyfel. A hwythau’n awyddus i gynorthwyo’r Cyngrheiriaid roedden nhw wedi ymgasglu ar y cychwyn yn Ninbych y Pysgod.

Bu milwyr Americanaidd yn aros yma dros gyfnod crynhoi’r lluoedd ar gyfer cyrch D-Day, pan aeth y Cyngrheiriaid ati i ryddhau Ffrainc a Gwlad Belg o afael yr Almaen. Ystrad oedd pencadlys a gwersyll gaeaf bataliwn o 38fed Catrawd Troedfilwyr Byddin Unol Daleithiau’r America.

Photo of Ystrad army camp in 1944

Wedi ymadawiad yr Americanwyr defnyddiwyd y safle yn wersyll carcharorion rhyfel. Erbyn hynny, roedd nifer sylweddol o filwyr Eidalaidd ac Almaenig wedi eu caethiwo gan y Cyngrheiriaid. Danfonwyd amryw ohonyn nhw i ardaloedd gwledig i helpu ar ffermydd er mwyn llenwi swyddi’r gweithwyr hynny a adawodd eu gwaith i ymuno â’r lluoedd arfog.

Roedd y carcharorion yn gweithio chwe diwrnod a hanner yr wythnos ac yn derbyn tâl o geiniog yr awr. Amrywiai’r gwaith yn ôl y fferm ac yn ôl y tymor, ond ar y carcharorion y disgynai pen trymaf y baich gwaith. At hyn bydden nhw’n gwneud gwaith cynnal ar yr heolydd ac yn gweithio mewn chwareli. Yn 1945 roedd chwalu pillboxes ac atalfeydd weiren bigog yn rhan o’u gwaith yn ogystal (codwyd y rhain ddechrau’r rhyfel yn sgil disgwyl ymosodiad o du’r Almaen).

Ystrad oedd gwersyll cyntaf y carcharorion wedi iddyn nhw gyrraedd yr ardal hon. Yma y câi’r carcharorion, eu holi’n fanwl cyn eu ‘trefnu’ yn ôl eu syniadau ideolegol a’u symud i wersylloedd eraill.

Yr enw lle:
Johnstown – Dyma’r enw ar anheddiad a pharc busnes sydd wedi tyfu ar hyd y B4317, y ffordd o Gaerfyrddin i Lansteffan. Cyfeiria’r elfen gyntaf at enw personol, sef enw John Jones, Ystrad, a fu farw yn 1842; yr ail elfen yw town ‘tref’. Mae’r arwyddion dwyieithog ar fin y ffordd yn dangos yr enw Tre Ioan yn ogystal.

Diolch i Alice Pyper, o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, ac i’r Athro Dai Thorne, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Côd post : SA31 3QY    Map o’r lleoliad

NCN Route 4

National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button