Cae Rygbi Athletic Park, Johnstown
Cae Rygbi Athletic Park, Johnstown
Er 2009 bu Athletic Park yn gartref i Glwb Rygbi Carmarthen Athletic. Mae ar dir lle y bu, ar un adeg, wersyll ar gyfer y lluoedd arfog ac ar gyfer carcharorion rhyfel yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Gwreiddiodd y syniad i greu Carmarthen Athletic o ddeutu D-Day, 6 Mehefin 1944 pan oedd milwyr Americanaidd newydd adael y gwersyll ar y safle hon. Sefydlwyd y clwb yn ddiweddarach y flwyddyn honno, gyda’r gobaith y byddai’r rhyfel yn dod i ben ac y gellid, o’r diwedd, baratoi am ddyddiau gwell. Tîm 1950 a welir yn yr hen lun.
Ar y dechrau’n deg, câi gemau cartref eu chwarae ar Five Fields yng Nghaerfyrddin, ac ar Barc Caerfyrddin a oedd yn eiddo i’r cyngor. Ym Mharc y Prior yng nghanol y dref roedd clwb y tîm rygbi.
Enillodd llawer o chwaraewyr y clwb gapiau rhyngwladol dros Gymru. Yn eu plith: Sid Judd (ei gêm gyntaf dros Gymru yn 1953), Gerald Davies (1966), Emyr Lewis (1991), Vici Owens (2011), Ken Owens (2011) a Josh Adams (2018).
Yn y pen draw gwerthwyd Five Fields er mwyn hwyluso ail-ddatblygu’r safle. Prynwyd tir yn y fan hon oddi wrth Goleg y Drindod, ac yn Awst 2009 agorwyd Athletic Park, cartref newydd y clwb, yn swyddogol gan Dennis Gethin, llywydd Undeb Rygbi Cymru. Y Parch. Phil Jones, ficer Llansteffan a chaplan y clwb, a fendithiodd y maes.
Defnyddir Athletic Park ar gyfer amryfal weithgareddau chwaraeon, naill ai yn yr awyr agored neu yn y cyfleusterau hyfforddi dan do. Mae’r clwb yn croesawu digwyddiadau busnes, seminarau a phriodasau hyd yn oed!
Mae amgueddfa Athletic Park yn croesawu ymwelwyr trwy drefniant – dilynwch y ddolen isod i gael manylion.
Mae’n diogelu cannoedd o eitemau cofiadwy gan gynnwys jersis, crysau a sgidiau chwaraewyr amrywiol gampau.
Diolch i Wynne Jones, ac i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
Côd post: SA31 3QY
Gwefan Carmarthen Athletic website – gwybodaeth am yr amgueddfa a mwy