Gorsaf Reilffordd Caerfyrddin
Gorsaf Reilffordd Caerfyrddin
Cafodd yr orsaf hon ei sefydlu gan gwmni’r Great Western Railway yn 1902, pan oedd y trac yn parhau tua'r gogledd i Aberystwyth.
Mae'r lluniau, trwy garedigrwydd John Davies, yn dangos yr orsaf ddechrau'r 1960au. Mae'r llun uchaf yn dangos y Pembroke Coast Express a oedd yn teithio rhwng Llundain a De Sir Benfro a hithau ar fin cychwyn ar ei siwrnai. Tanceri llaeth sydd ar y trac canol. Mae Neuadd y Sir yn y cefndir. Pen gogleddol yr orsaf a welir ar llun oddi tanodd. Mae bws ar y ramp sy'n arwain at yr orsaf a'r trên i Aberystwyth ar y chwith.
Agorwyd gorsaf wreiddol Caerfyrddin i’r de o’r dref yn 1852 gan y South Wales Railway. Y peiriannydd ar eu lein nhw o Abertawe oedd Isambard Kingdom Brunel. Cyrraedd Abergwaun oedd nod Brunel er mwyn darparu ar gyfer y bobl a’r nwyddau a oedd am gyrraedd Iwerddon. Ond oherwydd sgil-effeithiau economaidd y newyn tatws yn Iwerddon bu rhaid rhoi’r gorau i’r cynllun am y tro. Pan wellodd yr amodau, aeth Brunel â’r lein i Neyland yn hytrach nag i Abergwaun. Rhaid oedd aros tan 1906 cyn i’r lein gyrraedd Abergwaun.
Gan mai’r bwriad oedd estyn y lein i Sir Benfro, roedd y bryn sy’n nodwedd mor amlwg ar dref Caerfyrddin yn rhwystr pendant i sefydlu gorsaf yng nghanol y dref. Sut bynnag yn 1860 agorwyd rheilffordd gan y Carmarthen and Cardigan Railway tua’r gogledd o orsaf Brunel. Cafodd ei alw maes o law yn Carmarthen Junction. ‘Old Station Road’ yw’r enw sy’n coffáu’r y safle honno hyd heddiw; mae ar lan bellaf yr afon o dref Caerfyrddin.
Yn y pen draw llyncwyd y South Wales Railway, ynghyd â chwmnïau lleol eraill, gan y GWR ac yn 1902 disodlwyd Carmarthen Town gan orsaf newydd ar safle eang ar ochr dde’r afon. Byddai trenau o Abertawe i Sir Benfro yn troi am nôl bellach yng Nghaerfyrddin ac eithrio’r ‘trenau llong’ cyflym i Harbwr Abergwaun. Darfu am y gwasanaeth i deithwyr rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth yn 1965. Pan roddwyd y gorau i gludo nwyddau ganol y 1970au, codwyd y cledrau a Chaerfyrddin, bellach, oedd pen y daith.
Pan godwyd pont gadwyn, Pont King Morgan, yn 2006 manteisiwyd ar y cyfle i wella mynediad at yr orsaf ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Mae rhan grog y bont yn gant a hanner o fetrau o ran ei hyd.
Erbyn hyn mae Trafnidiaeth Cymru yn trefnu trenau bob awr i Gaerdydd, Crewe a Manceinion. I gyfeiriad y gorllewin mae trenau’n teithio o Gaerfyrddin i Aberdaugleddau, Doc Penfro a Harbwr Abergwaun.
Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad, ac i John Davies am y lluniau
Cod post: SA31 2BE Map
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |