Safle Abaty Hendy-gwyn ar Daf

button-theme-crimeSafle Abaty Hendy-gwyn ar Daf

Ar y safle hon safai abaty Sistersaidd cynnar a ddaeth yn ‘fam’ i nifer o abatai eraill yng Nghymru ac Iwerddon. Ychydig o adeiladau’r abaty sydd wedi goroesi. Gellir gweld rhai olion o’r heol. Mae’n fwy na thebyg mai olion system ddŵr, cwteri gwastraff a physgodlynnau yw’r gwrthglawdd gerllaw.

Sefydlwyd yr abaty yn gynnar yn y 1140au gan Bernard, Esgob Tyddewi. Ar y dechrau roedd y mynachod o Clairvaux, Ffrainc, yn byw yn Nhrefgarn Fach, Sir Benfro, cyn symud i Hendygwyn tua 1151. Yn fuan cafodd yr abaty nawdd gan yr Arglwydd Rhys, llywodraethwrwr y rhan fwyaf o dde Cymru a sefydlwyd abatai yn Ystrad Fflur (Ceredigion), Ystrad Marchell a Chwm-hir (y naill a’r llall o’r rhain ym Mhowys). Yn y drydedd ganrif ar ddeg sefydlwyd merched ‘y fam’ yn County Down a County Cork.

Yn 1188 ymwelodd Archesgob Caergaint a Gerallt Gymro ag Abaty Hendygwyn yn ystod eu taith recriwtio trwy Gymru ar gyfer y drydedd groesgad. Yma y cosbwyd deuddeg o saethyddion o gastell Sanclêr a’u gorfodi i listio am iddyn nhw lofruddio Cymro ifanc a oedd ar ei ffordd i gwrdd â’r Archesgob; bwriad y llanc hwnnw oedd listio ar gyfer y groesgad. Yn ddiweddarach ar y daith pregethodd yr Abad John o Hendygwyn a’r Archesgob yn Ystrad Fflur.

Dros y canrifoedd dilynol ni fu bywyd yn Abaty Hendygwyn yn fêl i gyd o bell ffordd! Ymosodwyd ar yr abaty ddwywaith yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg; lladdwyd gweithwyr o’r abaty gan ysbeilwyr yn 1258. Arhosodd y brenin Edward I yma yn 1295 wrth iddo geisio rhoi terfyn ar wrthryfela gan y Cymry. Cwynodd yr abad c. 1440 bod rhyfela a thân wedi achosi cymaint o niwed fel roedd yn anodd i’r abaty ei gynnal ef a’i wyth mynach. Diswyddwyd un abad yn ddiweddarach am ymddwyn yn anfoesol. A lladdwyd offeiriad gan fynach a oedd yn ymweld â’r abaty c. 1496.

Caeodd yr abaty yn 1539 yn sgil gorchymyn i ddiddymu’r mynachlogydd gan Harri’r VIII.

Ffynonellau yn cynnwys: gwefan Monastic Wales. Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA34 0LG    Map

Gwefan Monastic Wales – mwy o hanes yr abaty

button_tour_gerald-E Navigation previous buttonNavigation next button