Eglwys y Santes Fair, Hwlffordd

Eglwys y Santes Fair, Hwlffordd

haverfordwest_st_marys_church

Mae’r eglwys hon yn adeilad rhestredig Gradd I. Yn yr eglwys gellir gweld rhai o’r addurniadau canoloesol gorau sydd wedi’u diogelu yng Nghymru. Tybir bod rhannau hynaf yr eglwys yn perthyn i’r ddeuddegfed ganrif. Mae ale’r gogledd, porth y de ynghyd â sawl ffenestr ymhlith y  nodweddion canoloesol cynnar

Yn ystod oes Fictoria ailadeiladwyd llawer o hen eglwysi yn ôl chwaeth y cyfnod hwnnw. Dryswyd eu cynlluniau i wneud newidiadau mawr i’r tŵr mawr gan ddiffyg cyllid. Tynnwyd y meindwr yn 1802 oherwydd pryder y gallai gwympo. Mae deg o glychau yn y tŵr.

Yn yr eglwys mae cerflun bachan. Tybir ei fod yn cynrychioli pererin o’r bedwaredd ganrif ar ddeg.  Mae un o lwybrau’r pererinion i Dyddewi gerllaw.

Mae llawer o gofnodion eglwysig ysgrifenedig wedi goroesi gan gynnwys rheol yn 1630 y byddai oedolyn a gollai oedfa yn cael ei ddirwyo. Mae rheolau o’r cyfnod c.1636 yn nodi y dylai “morynion a’r rheiny a oedd yn ddibriod” osgoi cosb trwy beidio â  phenlinio yn y seddau. O ganlyniad ni fyddai’r corau’n llenwi ac yn rhwystro “gwragedd o well gradd” rhag penlinio.

Mae’n bosibl y ceir yma yr organ eglwys hynaf yng Nghymru sy’n cael ei chanu’n rheolaidd. Rhoddwyd hi yn ei lle yn 1737 a’i gwella dros y canrifoedd.

Cyflwynwyd cofeb Rhyfel Byd Cyntaf yr eglwys gan y Fonesig Phillips o Gastell Pictwn. Collodd hi ddau nai yn y rhyfel.

Ymwelodd Gerallt Gymro ac Archesgob Caergaint â Hwlffordd yn 1188 yn ystod eu taith recriwtio yng Nghymru ar gyfer y drydedd groesgad. Pregethodd Gerallt yn Lladin a Ffrangeg yn dilyn pregeth yn yr awyr agored gan yr Archesgob. Roedd milwyr yn y dorf. A nododd Gerallt fod rai ohonyn nhw’n rhuthro i ymuno, gymaint o argraff a wnaed arnynt, er nad oedden nhw’n deall na Lladin na Ffrangeg.

Anfonwyd un llanc gan ei fam ddall i nôl rhywbeth a oedd yn eiddo i’r Archesgob, edefyn hyd yn oed. Rhwystrwyd ef gan faint y dorf rhag mynd yn ddigon agos. Cipiodd, yn hytrach, y dywarchen  y bu’r Archesgob yn sefyll arni a mynd â hi adre at ei fam. Dywedodd Gerallt i’r fam weld drachefn wedi iddi ddal y dywarchen at ei hwyneb tra’n gweddïo.

Noda Gerallt hefyd fod Harri I wedi  poblogi Hwlffordd â chrefftwyr gwlân o Fflandrys (Gwlad Belg). Cododd gelyniaeth rhwng y rhain a’r trigolion lleol. Y rheswm am hynny yn ôl Gerallt oedd bod y Cymry’n cael eu camdrin gan y llywodraethwyr lleol.

Ynghylch yr enw lle:

Mae tref Hwlffordd (Haverfordwest) ar lan afon Cleddau Wen. Ystyr Haverford yw ‘rhyd y myn gafr’. Haverfordia (c. 1191) yw’r ffurf gynharaf ar yr enw; mae’n cynnwys dwy elfen Hen Saesneg sef hæfer ‘gafr’ a ford ‘rhyd’. Er mwyn osgoi unrhyw ddryswch rhwng Haverford â Hereford (Henffordd) ychwanegwyd West yn ystod y 15ed ganrif. Mae’r ffurf dalfyredig Hareford yn dal i’w chlywed yn lleol.

Datblygu a wnaeth yr enw Cymraeg Hwlffordd (Hawlffordd 14g., Hwlffordd 15g.) o ffurfiau Saesneg cynnar wrth i -r- newid yn -l- (fel yn achos maenor/maenol) ac i -d newid i -dd (fel yn achos Hen Saesneg ford a ddatblygodd yn ‘ffordd’ yn y Gymraeg).

Gyda diolch i'r Athro Dai Thorne, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Postcode: SA61 2DA    Map  

button_tour_gerald-E Navigation previous buttonNavigation next button