Pont Pen y Benglog
Pont Pen y Benglog
Gellir deall sut yn union y trawsnewidiwyd teithio ddechrau’r 19eg ganrif gan ffordd newydd Thomas Telford, o sylwi ar fwa carreg pont gynharach ar y safle hon. Mae hwnnw’n union o dan y prif fwa; gellir ei weld gliriaf o’r creigiau sydd i’r dwyrain o’r A5. O Lyn Ogwen, tua’r dwyrain, y daw’r dŵr sy’n byrlymu dan y bont.
Nid nepell o’r fan hon mae cwymp 100 metr o uchder. Powlia rhaeadrau Ogwen drosti, i’r dwyrain o’r bont. Yna llifa’r dŵr i gyfeiriad y gogledd ar hyd llawr dyffryn Nant Ffrancon. Roedd ffyrdd cynharach o Nant Ffrancon yn serth yn y fan hon ac yn dilyn Llyn Ogwen. Achosai’r hen ffyrdd drafferthion i geffylau yn tynnu ceirt a cherbydau.
I hwyluso’r daith rhwng Llundain a Chaergybi, sicrhaodd Telford nad oedd y ffordd newydd fyth yn esgyn dros 1:20 (sef yn codi 1 metr dros 20 metr llorwedd). I’r gogledd o Bont Pen y Benglog, naddodd ei weithwyr hafn drwy’r graig er mwyn i’r ffordd newydd allu croesi’r dŵr ar lefel dipyn yn uwch na’r hen ffordd.
Yn ddiweddarach lledwyd ochr ddwyreiniol y ffordd - dros weddillon yr hen bont - er mwyn sicrhau lle digonol i foduron ac i gerddwyr sy’n oedi yma i edmygu’r golygfeydd gwych. Blociau llechi a roddwyd ar wyneb yr estyniad i’r bont yn unol ag arddull gwaith gwreiddiol Telford. Mae ôl crefftwaith seiri maen Telford yn amlwg ar yr ochr orllewinol.
Yr enw:
Nant y Benglog yw’r enw ar y dyffryn cul rhwng Capel Curig a Llyn Ogwen. Mae’n enw sy’n digwydd mewn sawl man yng Nghymru lle y ceir tirwedd debyg. Cred amryw mai ystyr yr enw yw ‘pen y graig’ neu ‘uwchben y graig serth’. Cyfeiria Pen y Benglog yn y fan hon at graig benodol (i’r de-orllewin o’r bont) sydd fel petai’n ben ar y creigiau serth ac yn llywyddu ar Nant Ffrancon. Dynodi padell yr ymennydd a wna ‘penglog’ fel rheol - disgrifiad cwbl addas o’r graig hon o syllu arni o Nant Ffrancon.
Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen a'r Athro David Thorne o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru