Chwarel y Penrhyn

Chwarel y Penrhyn

bethesda_penrhyn_slate_quarry

Dechreuwyd chwarela yma yn y 18fed ganrif, ac erbyn y 19eg ganrif y Penrhyn oedd y chwarel lechi fwyaf yn y byd gan gyflogi dros 2,500 o ddynion. Tyfodd tref Bethesda yn gyflym ac ym 1864 cafwyd cwynion mai dim ond dau heddwas oedd yn byw yno i gadw trefn ar 8,000 o bobl!

Daeth ymwelwyr, gan gynnwys y Dywysoges Victoria, i syllu ar y chwarel a’r Talcen Mawr, sef mewnwthiad folcanig 90 metr (300 troedfedd) o uchder. Gellir ei weld yng nghanol y llun ar y dde. Ar ôl iddo fynd yn beryglus, cafodd y Talcen Mawr ei chwalu ym 1895, gyda channoedd o bobl yn gwylio.

Roedd gwaith y chwarelwr yn galed a pheryglus. Cafodd llawer eu hanafu neu’u lladd a dioddefodd llawer mwy o afiechydon yr ysgyfaint ar ôl anadlu llwch. Ym 1861 lladdwyd un gweithiwr pan syrthiodd craig yn pwyso pum tunnell arno gan dorri ei fraich i ffwrdd. Cafwyd hyd i’w galon 4.6 metr oddi wrth ei gorff a llifodd ei waed i lawr “fel glaw ar y boncen islaw”.

Bu farw Richard Hughes ym 1882 wrth weithio ar un o’r incleiniau. Aeth ynghlwm mewn cebl a chafodd ei lusgo i mewn i’r drwm weindio.

bethesda_penrhyn_quarry

Cafwyd sawl anghydfod diwydiannol yma yn y 19eg ganrif ac ym 1874 sefydlwyd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Dyma fuddugoliaeth fwyaf y chwarelwyr ond roedd yr Arglwydd Penrhyn am gael gwared ar ddylanwad yr undeb yn ei chwarel. Dileodd y system “bargen”, lle roedd y chwarelwyr yn cytuno ar eu henillion misol ar sail ansawdd y graig a gaent i weithio arni (gan eu galluogi i’w hystyried eu hunain yn gontractwyr yn hytrach na gweithwyr cyflogedig).

Credai’r chwarelwyr fod yr hyn wnaeth yr Arglwydd Penrhyn yn dangos diffyg parch tuag atynt fel gweithwyr medrus. Roedd ganddynt gwynion eraill hefyd ac ym mis Tachwedd 1900 cerddodd y dynion allan. Roedd yr Arglwydd Penrhyn yn ddigyfaddawd a pharhaodd y streic am dair blynedd, un o’r rhai hiraf yn hanes Prydain. Gadawodd cannoedd o bobl Fethesda, am byth. Dioddefodd llawer o’r rhai a arhosodd newyn a methodd busnesau oherwydd diffyg cwsmeriaid. Arweiniodd y drwgdeimlad rhwng y streicwyr a’r rhai a ddychwelodd i’r gwaith – y “bradwyr” – at drais, gyda rhai yn cael eu harestio ac eraill yn cyflawni hunanladdiad.

Mae’r chwarel yn dal i gynhyrchu llechi heddiw. Agorodd atyniad Zip World yn 2013, gyda weiars gwib dros dwll y chwarel, rhan nad yw’n cael ei defnyddio.

Gyda diolch i Dr Hazel Pierce, o The History House, ac i Dr Paul Rowlinson am y cyfieithiad

Map

Ffynhonellau yn cynnwys: Jones, CS, What I Saw at Bethesda, gyda rhagarweiniad gan J Elwyn Hughes (Ceredigion, 2003); Jones, RM, The North Wales Quarrymen 1874-1922 (Caerdydd, 1981); Gwyn, D, Welsh Slate Archaeology and History of an Industry (RCAHMW, Aberystwyth).

button_tour_StrikesAndRiots-E Navigation previous buttonNavigation next button
button-tour-slate-trail previous page in tournext page in tour