Gweithdai llechi’r Felin Fawr, Bethesda
Gweithdai llechi’r Felin Fawr, Bethesda
Ar un adeg, yr adeiladau hyn oedd y ganolfan brosesu ar gyfer cynnyrch chwarel lechi fwya’r byd. Deuai’r llechfaen, oedd newydd ei naddu o bonciau Chwarel y Penrhyn, ar wagenni'r lein fach, i’w lifio a’i hollti ar gyfer gwahanol ddibenion, ond ar gyfer llechi toi yn bennaf. Cludid y cynnyrch gorffenedig ar Reilffordd y Penrhyn i’r harbwr ym Mhorth Penrhyn, ger Bangor.
Agorwyd y felin garreg wreiddiol erbyn 1803. Roedd y peiriannau yn cael eu gyrru gan ddŵr o afon Galedffrwd, sy’n llifo o’r mynyddoedd i’r de orllewin i’r fan. Mae dwy rod ddŵr i’w gweld o hyd ar y safle. Adeiladwyd un ohonynt gan gwmni De Winton, Caernarfon, ym 1846.
Os ydych newydd sganio’r codau QR dan y bont, byddwch wedi gweld hen adeilad y ffowndri wrth edrych tua’r gogledd o’r bont. Roedd metel tawdd yn cael ei dywallt i fowldiau yno i wneud offer ar gyfer y chwarel a’r rheilffordd. Tu ôl i’r ffowndri y mae’r hen felinau carreg, dau adeilad hir, cyfochrog.
Mae sied y locomotifau stêm ar ochr dde’r bont, bron ar ongl sgwâr i’r rheilffordd, sy’n rhedeg o’r gogledd i’r de. Roedd y locomotifau bach yn gallu ymdopi â chorneli llym oherwydd mai dim ond 60cm oedd lled y traciau rheilffordd. Cyrhaeddodd locomotif stêm cyntaf Chwarel y Penrhyn o ffatri De Winton yn Rhagfyr 1876, i gymryd lle ceffylau. Erbyn y gwanwyn nesaf, byddai’r gweithwyr yn derbyn eu cyflog o drên stêm a fyddai’n mynd i dri lleoliad gwahanol. Cyn hynny, byddent yn gorffen eu gwaith am 9 o’r gloch i fynd i swyddfa gyflog ganolog ond yn awr, diolch i’r trên cyflog, roeddent yn dal i weithio nes i’r gloch ganu am 10 o’r gloch!
Cymerodd gweithwyr y Felin Fawr ran yn y Streic Fawr, y streic hiraf ym Mhrydain a barodd o 1900 i 1903 ac a rwygodd y gymuned. Cafwyd rhagflas o’r chwerwder oedd i ddod yn ystod anghydfod ym mis Hydref 1896, pan osodwyd cerrig ar drac Rheilffordd y Penrhyn er mwyn bwrw oddi ar y cledrau drên oedd yn mynd â gweithwyr oedd yn torri’r streic adref. Er ei bod yn dywyll, llwyddodd y gyrrwr i stopio’r trên mewn pryd. Ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, ymosododd tua 60 o ddynion ar y Felin Fawr, gan daflu cerrig at y gweithwyr yno.
Caewyd y rheilffordd ym 1962 ond cafodd ei locomotifau eu prynu gan gasglwyr brwdfrydig ym Mhrydain a Gogledd America. Mae un i’w weld o hyd yng Nghastell Penrhyn, Bangor.
Defnyddir rhai o’r adeiladau ar y safle yn awr gan wahanol fusnesau bach.
Diolch i Dr Paul Rowlinson am y cyfieithiad
Cod post : LL57 4AX Map