Hen Fynwent Tanysgrafell, Bethesda

button-theme-crimeHen Fynwent Tanysgrafell, Bethesda

bethesda_tanysgrafell_cemetery

I’r gogledd i’r llwybr wrth ymyl y fan hon y mae hen Fynwent Tanysgrafell (neu Tanysgafell), yr oedd ganddi ei chapel ei hun. Cewch gerdded trwy’r goedwig i’r fynwent (sy’n dal i berthyn i’r Eglwys yng Nghymru) ond byddwch yn ofalus ar y tir anwastad.

Adeiladwyd mam-eglwys wreiddiol yr ardal hon, Eglwys y Santes Ann, ym 1812, ac fe’i claddwyd yn ddiweddarach gan y tomenni llechi cyfagos. Nid oedd ganddi fynwent. Ar 9 Mawrth 1848, cysegrwyd Mynwent Tanysgrafell gan Esgob Bangor, gyda 240 o blant Ysgol Pont y Tŵr yn bresennol. Erbyn 1965 “nid oedd y capel yn agored mwyach” ac mae’n ymddangos iddo gael ei ddymchwel yn fuan wedyn.

Y bedd cynharaf y gellir ei adnabod yw un Ann Roberts, 2 oed, Craiglwyd, Mynydd Llandygái, a gladdwyd 2 Mai 1848; yr un diweddaraf yw bedd Jane Jones, 91, Bryneglwys, a gladdwyd 31 Mai 1913.

Claddodd Charles Jones, meistr Ysgol Pont y Tŵr, ddau o'i blant yma o fewn chwe diwrnod ym 1852. Roedd un ohonynt, 10 oed, wedi syrthio i lawr clogwyn i'w farwolaeth ychydig cyn i'r llall farw o beswch yn 15 mis oed.

Ym 1904, cafodd un o drigolion hynaf yr ardal ei gladdu yma. Roedd Humphrey Jones, 95 oed, wedi gweld ffordd Thomas Telford (yr A5 heddiw) yn cael ei hadeiladu. Roedd yn byw yn ddiweddarach yng Nglan Ogwen, lle roedd yn gweithio fel ciper o 1871 ymlaen.

Bu helynt yn ymyl y fynwent rhyw nos Sadwrn ym 1858 ac o ganlyniad cafodd yr heddwas Edward Jones ei gyhuddo o ladrad pen ffordd! Roedd ar chwarelwr o’r enw John Roberts arian i’r Cwnstabl. Ar ei ffordd adref roedd o, meddai, ar ôl noson o yfed ym Methesda, pan ymosododd y cwnstabl a chydleidr arno, gan ddwyn ei gadach gwddf a’i arian a’i “guro”. Oherwydd tystiolaeth anghyson a meddwdod Roberts, cafwyd y Cwnstabl Jones yn ddieuog.

Ym 1883, ymosododd fandaliaid ar “gapel bach tlws y fynwent”, gan dorri’r ffenestr ddwyreiniol fawr. Oherwydd ei safle anghysbell, nid oedd tai cyfagos “i’w amddiffyn rhag y fath anhrefn”.

Er bod yno Ysgol Sul lewyrchus, roedd y lle yn annigonol. Erbyn 1888, roedd wedi cau. Fe’i hail-agorwyd ym 1889, wedi i’r Arglwydd Penrhyn dalu am ei adnewyddu ac adeiladu transept newydd.

Yn Nhachwedd 1914, cynhaliwyd noson gan Fand Trugaredd Eglwys y Santes Ann yn y capel, gan godi arian i ffoaduriaid o Wlad Belg. Nodwyd bod “boneddigesau o Wlad Belg sydd yn awr yn trigo ym Mangor” yn y gynulleidfa.

Gyda diolch i Hazel Pierce, o The History House, ac i Dr Paul Rowlinson am y cyfieithiad. Ffynhonellau yn cynnwys arolwg beddysgrifau gan Gymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd. Diolch hefyd i David Shipley

Map

button_tour_StrikesAndRiots-E Navigation previous buttonNavigation next button
button-tour-slate-trail previous page in tournext page in tour