Hen Ysgol Pont y Tŵr, Bethesda
Hen Ysgol Pont y Tŵr, Bethesda
Sefydlwyd Ysgol Pont y Tŵr (a adwaenid hefyd fel Ysgol Ty'n Tŵr) yn y fan hon gan yr Anrhydeddus Gyrnol Douglas Pennant (perchennog Chwarel y Penrhyn) ddechrau’r 19eg ganrif. Tŷ’r ysgolfeistr oedd y rhan agosaf at y ffordd, gyda’r ysgoldy y tu ôl iddo. Tŷ preifat yw’r adeilad heddiw – a fyddwch cystal ag edrych arno o’r ffordd a pheidio â mynd i mewn i’r ardd na’r buarth yn y cefn.
Ym 1866 roedd gan yr ysgol 310 o ddisgyblion (130 o fechgyn, 180 o enethod) – mwy nag unrhyw ysgol arall yn yr ardal. Roedd yn un o’r prif leoliadau ar gyfer cyfarfodydd a chyngherddau. Ym 1856 perfformiodd Cymdeithas Harmonig Chwarel y Penrhyn yma i gynulleidfa o 600. Defnyddiwyd yr ysgol fel ysbyty dros dro pan gafwyd epidemig o deiffoid ym 1882.
Erbyn 1849, yr ysgolfeistr oedd Charles Jones, o Dreffynnon yn wreiddiol. Fe welwch luniau ohono a’i wraig Joanna yma. Cyn hynny bu’n glerc mewn swyddfa ym Manceinion. Tra roedd y cwpl yn byw yma gyda’u plant, dioddefodd y teulu drasiedi. Ddydd Sadwrn, 15 Mai 1852, lladdwyd eu mab hynaf, Charles Foulkes Jones, 10 oed, yn ddisymwth pan syrthiodd 9 metr (30 troedfedd) i lawr clogwyn ym Mraich Tŷ Du (wrth ochr ffordd yr A5 heddiw, dan Ben yr Ole Wen).
Wyth diwrnod yn ddiweddarach, bu fawr ei frawd bach, Josiah, o’r pâs yn 15 mis oed. Claddwyd y ddau ym Mynwent Tanysgrafell, gyda’r ail gynhebrwng ddim ond chwe diwrnod ar ôl y cyntaf. Collodd y cwpl bump o’u wyth plentyn. Gadawodd y teulu Fethesda a chafodd Charles ei ordeinio yn y pen draw yn Llandaf. Bu farw ym 1890, yn 75 oedd, ac yntau erbyn hynny’n ficer Eglwys Sant Ffagan, Aberdâr, Morgannwg.
Ym mis Hydref 1903 gwerthwyd tŷ’r ysgolfeistr mewn arwerthiant. Ym 1915 penderfynodd y Bwrdd Addysg gau’r ysgol. Cafwyd gwrthwynebiad yn lleol, gyda rhybuddion na fyddai’r plant yn mynychu unrhyw ysgol arall ac y byddai’r mater yn cael ei godi yn y Senedd, ond caewyd yr ysgol erbyn diwedd y flwyddyn.
Trosglwyddwyd y dodrefn, yr offer a’r llyfrau i Ysgolion Cefnfaes a Glanogwen ym Methesda. Trosglwyddwyd yr athrawon hefyd i ysgolion eraill, gan gynnwys y prifathro Richard Evans, a ddaeth yn athro cynorthwyol yn Ysgol Carneddi ond a adawodd yn fuan wedyn, yn Chwefror 1916, i wneud gwaith cynhyrchu arfau ar gyfer y rhyfel.
Gyda diolch i Dr Hazel Pierce, o The History House, i Barbara Reid, ac i Dr Paul Rowlinson am y cyfieithiad
Cod post: LL57 3BQ Map
![]() |
![]() ![]() |