Adfeilion ysbyty’r chwarel, Bethesda

sign-out

Adfeilion ysbyty’r chwarel, Bethesda

Y muriau adfeiliog yn y coetir ger y llwybr beicio yw gweddillion Ysbyty Chwarel y Penrhyn, a godwyd gan y Cyrnol Pennant yn yr 1840au er mwyn rhoi triniaeth frys i chwarelwyr a anafwyd yn y gwaith. Roedd yr ysbyty, a elwid yn lleol yn Ysbyty Brynllwyd, hefyd yn trin ymwelwyr i Eryri oedd wedi’u hanafu. Mae'r hen lun, a ddangosir yma gyda chaniatâd, yn dangos yr ysbyty a rhai o'r staff a'r cleifion c.1900.

Photo of Penrhyn quarry hospital c.1900Roedd y cyfleusterau ym 1875 yn cynnwys: tair ward â phedwar gwely yr un; meddygfa; ystafell aros; a chorffdy gerllaw – oherwydd bod llawer o ddamweiniau yn y chwarel yn angheuol. Gosodwyd system ddŵr poeth ym 1889.

Bydd clwb cleifion y chwarelwyr yn talu am driniaeth iddynt yma, fel cleifion mewnol neu allanol. Ym 1890, rhoddodd epidemig ffliw gyllid yr ysbyty dan straen; cynyddwyd y tanysgrifiadau a chyfrannodd yr Arglwydd Penrhyn £100.

Darparai’r ysbyty gymorth meddygol i bobl a anafwyd wrth ddringo yn Nyffryn Ogwen. Yn haf 1907 yn unig, triniwyd anafiadau o bum damwain ddringo ddifrifol. Yn ddiweddarach, diolchodd y crwner yn gyhoeddus i’r Dr Mills Roberts a’i wraig Annie, y metron.  

Yma ym 1847 y cynhaliwyd y llawdriniaeth lwyddiannus gyntaf dan anaesthetig yng ngogledd-orllewin Cymru – sef torri coes i ffwrdd o ganol y glun. Roedd angen y sgiliau hyn ar ôl damwain ar Reilffordd Chwarel y Penrhyn ym 1888 hefyd. Roedd trên y gweithwyr wedi gadael Porth Penrhyn am 5.30 y bore ar 28 Awst, gan godi gweithwyr ar y ffordd i’r chwarel. Rhwng Tŷ’n y Clwt a’r Felin Fawr, roedd wagen (a ddefnyddid i gludo slabiau llechen) wedi’i gadael wrth ochr rhan gul o’r rheilffordd.

Aeth yr injan heibio’r wagen. Roedd y cerbyd yn lletach ac fe drawodd y wagen a dymchwel. Cafodd ei lusgo wysg ei ochr a thaflwyd wyth dyn allan. Fe’u cludwyd i gyd i ysbyty’r chwarel gyda gwahanol anafiadau. Roedd rhan isaf corff a choesau David Griffith, 35, Craig y Pandy, Tregarth, wedi’u “rhwygo’n ddychrynllyd”. Torrwyd un goes i ffwrdd ar unwaith ond bu farw dair awr yn ddiweddarach o sioc a cholli gwaed, gan adael gwraig, Gaenor, a phedwar plentyn rhwng un ac 11 oed. Yn y cwest, cyfaddefodd y dynion oedd wedi gadael y wagen eu hesgeulustod a gwnaeth y crwner “eu ceryddu’n ddifrifol gan grynhoi, i raddau helaeth, o blaid dynladdiad” ond y dyfarniad oedd “Marwolaeth ddamweiniol”.

Daeth yr ysbyty yn llai prysur wrth i gyfleusterau Ysbyty Sir Gaernarfon a Sir Fôn ym Mangor wella. Cafodd ei gau yng nghanol yr 20fed ganrif. Ym 1974 datgymalodd gweithwyr chwarel adeilad yr ysbyty, gan dynnu ymaith y to, y lloriau ac eitemau eraill a gadael y waliau yn agored i'r elfennau.

Gyda diolch i Dr Hazel Pierce, o The History House, ac i Dr Paul Rowlinson am y cyfieithiad. Hefyd i Robin Willis, awdur ‘The Penrhyn Quarry Hospital at Brynllwyd’. Ffynhonellau yn cynnwys ‘The North Wales Quarry Hospitals and the Health and Welfare of the Quarrymen’, gan E Davies (Gwasanaeth Archifau Gwynedd, 2003)

Map

button_tour_StrikesAndRiots-E Navigation previous buttonNavigation next button
button-tour-slate-trail previous page in tournext page in tour