Pont y Tŵr, Bethesda
Pont y Tŵr, Bethesda
Roedd y bont hardd hon, testun sawl arlunydd, yn dyst i wrthdaro yn ystod streic Chwarel y Penrhyn (1900-1903).
Yn y 1770au, nododd Thomas Pennant, awdur llyfrau taith, fod y dyffryn hwn “wedi’i amddiffyn ar un adeg gan gaer ... o’r enw Ty’n y Tŵr, wrth ymyl pont o’r enw Pont y Tŵr”. Ym 1805, ehangwyd Pont y Tŵr i gludo’r ffordd i Lanllechid.
Cafodd y cerdyn post o’r bont ar y dde (hawlfraint: Gwasanaeth Archifau Gwynedd) ei bostio ym 1906. Ymhlith yr arlunwyr a beintiodd y bont yr oedd James Jackson Curnock, arlunydd a dyfrlliwiwr o Fryste . Ym 1890, arddangosodd “Pont-tŵr, Bethesda” yn Academi Celfyddydau Cain Bryste.
Cafwyd hyd i gorff Elizabeth Williams, 40 Pen y Bryn, ar 9 Awst 1890 mewn dŵr bas ger y bont. Roedd ei gŵr, William, wedi marw dri mis ynghynt, yn 53 oed, gan ei gadael gyda’u chwech o blant a’r hynaf yn 14 mlwydd oed. Roedd marwolaeth William yn “poenydio'i meddwl” ond dyfarniad y cwest oedd “Wedi boddi” yn hytrach na hunanladdiad. Claddwyd Elizabeth, 46 oed, ym mynwent Eglwys Glanogwen, lle roedd William wedi’i gladdu dri mis ynghynt.
Daeth y fan dawel hon yn fflachbwynt yn ystod y streic fawr, gan fod y bradwyr yn ei chroesi wrth fynd adref o’r gwaith. Ymgasglai streicwyr yma i brotestio, gan beri gwrthdaro swnllyd ac weithiau treisgar. Ym Mai 1901, “curodd merched duniau mewn dirmyg” ac yn Ionawr 1903 cafodd tri dyn eu cyhuddo o ymosod ar weithiwr ar risiau ysbyty’r chwarel (y llwybr sy’n gadael y ffordd ychydig i’r gorllewin i Bont y Tŵr).
Cafodd William J Parry, gŵr busnes lleol dadleuol (oedd wedi cefnogi’r streic) fath arall o wrthdrawiad yma ym 1919. Bu gwrthdrawiad rhwng un o’i gerbydau, “yn drymlwythog ac yn dod o Chwarel y Penrhyn dros Bont y Tŵr”, a char modur. Un o’r teithwyr oedd y Fonesig Anne Lewis, gwraig Syr Henry Lewis, Belmont, Bangor (a chwaraeodd ran allweddol wrth sefydlu Prifysgol Bangor). Cafodd hi “ei thorri gan ddarnau o wydr wedi malu”. Ar ôl derbyn sylw gan Dr Pritchard, Bethesda, cafodd ei hanfon adref mewn “car caeedig” a’i chadw yn y gwely tra byddai’n gwella.
Gyda diolch i Dr Hazel Pierce, o The History House, i Wasanaeth Archifau Gwynedd am y llun uchaf, ac i Dr Paul Rowlinson am y cyfieithiad
Gwefan Gwasanaeth Archifau Gwynedd
![]() |
![]() ![]() |