Bythynnod Cae’r Berllan, Bethesda
Bythynnod Cae’r Berllan, Bethesda
Ym 1841 roedd 14 bwthyn yn y rhes hon ac erbyn 1901 roedd 16. Ym 1901 roedd gan bob bwthyn dair ystafell, heblaw rhif 1 oedd â phedair! Ni chafwyd fawr ddim newidiadau i wyneb blaen y bythynnod ers y 19eg ganrif.
Mae Cae’r Berllan i’w weld yng nghanol yr hen lun (o ddechrau’r 20fed ganrif), gyda Chwarel y Penrhyn tu ôl iddo. Mae’r enw yn awgrymu y bu perllan gerllaw ar un adeg.
Effeithiodd y streic fawr, 1900-1903, ar fywyd bron pawb a oedd yn byw yn y bythynnod. Cynhaliwyd protestiadau ar Bont Tŵr (dros y ffordd) a byddai’r protestwyr yn gorymdeithio heibio’r tai hyn ar eu ffordd i’r dref.
Gadawodd llawer o weithwyr a’u teuluoedd Fethesda yn ystod y streic. Ym 1902, mudodd RH Thomas, Cae’r Berllan (rhif 4 mae’n debyg) i Dde Affrig gyda’i fab. Roedd RH Thomas yn ddiacon yng Nghapel yr Annibynwyr ym Methesda ac fe drefnodd gyngherddau gan Gôr Merched y Penrhyn; bu hefyd yn oruchwyliwr yn chwarel gydweithredol Pantdreiniog. Ym 1903, ymunodd ei ferch a’i fab arall ag ef yn Ne Affrig, lle roedd “yn gwneud yn dda fel rheolwr chwarel faen”.
Ym 1864, aeth Robert Hughes, saer maen oedd wedi meddwi “ar hyd strydoedd Bethesda” yn sarhau merched, cyn mynd i bob tŷ yng Nghae’r Berllan a thaflu allan y trigolion! Gan feddwl ei fod “o’i go”, rhoddodd y trigolion “feddiant llwyr o’u cartrefi”. Cafodd ei arestio a’i ddirwyo.
Ym 1888, dygodd Ellen Williams, Cae’r Berllan (rhif 8 mae’n debyg) achos yn erbyn ei chefnder Robert H Roberts, Mynydd Llandygái, gan hawlio £300 am dorri addewid i briodi. Dywedodd hi iddo addo ei phriodi ym 1883 ond iddo briodi rhywun arall wedyn. Dywedodd Robert, nad oedd mewn iechyd da, iddo addo ei phriodi ar yr amod y byddai ei rieni yn byw gyda hwy. Ond nid oedd Ellen, a oedd wedi treulio blynyddoedd yn nyrsio ei mam yn ei salwch, yn dymuno byw gyda “dau o hen bobl ar y mynydd”. Penderfynodd y rheithgor o blaid Ellen, ond rhoddasant iddi £25 o iawndal a chostau yn unig.
Roedd Thomas John Williams, chwarelwr, yn byw ar un adeg yn 2 Cae’r Berllan gyda’i ail wraig Esther. Bu farw ei fab Johnnie yn Ffrainc wrth wasanaethu gyda Chatrawd Middlesex yn y Rhyfel Byd Cyntaf – gweler ein tudalen am gofgolofn ryfel Bethesda ar gyfer rhagor o fanylion am y teulu.
Gyda diolch i Dr Hazel Pierce, o The History House, ac i Dr Paul Rowlinson am y cyfieithiad
Cod post: LL57 3PS Map
![]() |
![]() ![]() |