Eglwys Crist, Bethesda

Eglwys Crist, Bethesda

bethesda_christ_church

Cysegrwyd Eglwys Crist, eglwys blwyf Glanogwen, ym 1856 ac mae ganddi’r meinciau gwreiddiol o hyd, sydd ag addurnau pen mainc cain. Fe’i dyluniwyd gan Thomas Henry Wyatt ar ôl i gasgliad godi digon o arian, gan gynnwys £500 gan blwyfolion a £2,000 gan y Cyrnol Douglas Pennant, Castell y Penrhyn, a gyfrannodd y safle hefyd. Gosodwyd y garreg sylfaen gan y Fonesig Louisa Douglas-Pennant, ei ail wraig.

Ar 31 Rhagfyr bob blwyddyn, o 11.30 tan 11.55 yr hwyr byddai clychau’r eglwys yn cnulio’n drist am y flwyddyn oedd yn marw – ac yna yn newid am hanner nos i atseinio’n orfoleddus am y flwyddyn newydd!

Ym 1859, rhoddodd y Frenhines Fictoria gwpan arian wedi’i hysgythru i Gymdeithas Gorawl Chwareli’r Penrhyn ar ôl i’r côr ganu iddi hi a’r Tywysog Albert yng Nghastell y Penrhyn. Byddai ficer Glanogwen yn cadw’r gwpan am flwyddyn ymhob un yn ei thro o’r pedair eglwys leol.

Darperid te blynyddol i gôr mawr Eglwys Grist. Yn Ionawr 1863 eisteddodd y cantorion i lawr i bryd o gig eidion, pwdin Nadolig a chwrw da. Fodd bynnag, byddai’r cwrw da weithiau yn peri problemau, fel pan ddaeth Gwyddel “chwil” i wasanaeth ym 1864 a cheisio rhoi ei ymatebion ei hun i’r Litani. Taflodd yr heddlu ef allan cyn pen dim o dro!

Ym 1875, bu gwrthdaro rhwng y ficer John Morgan a rhai o’r trigolion a oedd am i’r ffioedd claddau gael eu lleihau a’u sefydlu. Ym mis Mawrth, bu farw tad-yng-nghyfraith un o brif ysgogwyr yr anghydfod, a chafwyd helynt yn syth. Rhoddodd cyfeillion yr ymadawedig waith brics yn y bedd heb ganiatâd y Parchedig John Morgan. Fe fygythiodd yntau dalu’r pwyth yn ôl trwy ei ddinistrio.

Yn ystod y cynhebrwng, gyda’r heddlu yn bresennol, taflodd y Parchedig John Morgan yr arian claddu i lawr a gwrthododd ganiatáu i’r arch gael ei gollwng i’r bedd nes i’r ffi gyfan gael ei thalu. Cafwyd “ffrae anweddus dros y corff”. Yn y pen draw, cychwynnodd y Parchedig John Morgan achos llys ac fe honnwyd (er i’r chwarelwyr wadu hyn) fod yr anghydfod yn ffordd o “gosbi’r personiaid” am gefnogi’r cyflogwyr yn streic Chwarel y Penrhyn ym 1874.

Paratowyd llechen goffa i’r Parchedig John Morgan fel rhan o waith adnewyddu’r eglwys ym 1906. Ychydig cyn i’r eglwys ailagor, cafwyd ffrwydrad nwy a ddifrododd y lloriau yn ddrwg yn festrïoedd y clerigwyr a’r côr, chwythodd dwy o’r ffenestri yn llwyr a chracio’r “ffenestr ddwyreiniol hardd”.

Roedd yr awdur Caradog Prichard yn gôr-fachgen yma yn gynnar yn y 20fed ganrif.

Gyda diolch i Dr Hazel Pierce, o The History House, ac i Dr Paul Rowlinson am y cyfieithiad

Cod post: LL57 3NL    Map

button_tour_StrikesAndRiots-E Navigation previous buttonNavigation next button