Man geni Caradog Prichard, Bethesda

Man geni Caradog Prichard, Allt Pen y Bryn, Bethesda

bethesda_caradog_prichardYn y tŷ hwn, Llwyn Onn, y treuliodd Caradog Prichard (1904–80) ei blentyndod cynnar. Cafodd ei nofel hunangofiannol Un Nos Ola Leuad gryn ddylanwad ar lenyddiaeth Gymraeg ac y mae wedi’i chyfieithu i nifer fawr o ieithoedd.

Bu tad Caradog, John Pritchard (roedd ‘t’ yn ei gyfenw), yn rhan o’r Streic Fawr yn chwarel y Penrhyn (1900–1903), er ei bod yn debygol iddo ddychwelyd i weithio cyn ei diwedd. Bu farw mewn damwain yn y chwarel yn 1905. Cafodd Caradog a’i ddau frawd hŷn eu magu mewn tlodi ac roedd eu mam, Margaret, yn dioddef o salwch meddwl. Gwaethygodd ei chyflwr nes iddi orfod adael cartref y teulu ar y pryd (Tŷ Isa, Glanrafon) a mynd, yn 1923, i’r ysbyty meddwl yn Ninbych. Yno y bu hyd nes iddi farw yn 1954.

Gadawodd Caradog Ysgol y Sir, Bethesda, yn 1922 a chafodd yrfa ym myd newyddiaduraeth, gan weithio i ddechrau ar Yr Herald Cymraeg ac yn ddiweddarach ar y Western Mail yng Nghaerdydd a’r News Chronicle a’r Daily Telegraph yn Llundain. Gwnaeth argraff ar y byd llenyddol Cymraeg wrth ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1927, 1928 a 1929. Nid oedd unrhyw fardd cyn hynny wedi ennill y Goron deirgwaith yn olynol, ac ef, yn 1927, oedd yr ieuengaf i’w hennill. Mae’r llun isod yn ei ddangos yn derbyn cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli yn 1962, tair blynedd cyn tynnu’r llun uchod ohono.

bethesda_caradog_prichard_coroniPriododd Mattie Adele Gwynne Evans, athrawes o Gaerdydd, yn 1933. Derbyniodd yr alwad i'r fyddin yn 1942 a threuliodd ddwy flynedd olaf yr Ail Ryfel Byd fel newyddiadurwr a chynhyrchydd rhaglenni i All India Radio yn Delhi, gwaith a oedd yn cynnwys ysgrifennu propaganda yn y rhyfel a oedd yn parhau yn erbyn Japan.

Un Nos Ola Leuad, a gyhoeddwyd yn 1961, yw ei unig nofel. Y mae wedi’i haddasu ar gyfer radio, teledu, y llwyfan a ffilm. Y mae wedi’i lleoli adeg y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn adlewyrchu’n agos blentyndod Caradog ym Methesda. Roedd yn torri tir newydd ym myd ffuglen Gymraeg yn y modd yr oedd yn darlunio gwallgofrwydd, hunanladdiad a gwydroad rhywiol – pynciau tabŵ hyd at hynny. Roedd yn defnyddio techneg ‘llif yr ymwybod’ i fynegi meddyliau’r prif gymeriad, gyda thafodiaith Bethesda yn cymryd lle’r iaith lenyddol arferol.

Fel plentyn, mynychai Caradog wasanaethau Anglicanaiadd yn Eglwys Glanogwen, lle y bu'n canu yn y côr ac yn ddisgybl Ysgol Sul. Annibynwraig oedd ei wraig Mattie ac yn ei chapel yng Nghaerdydd y priododd y ddau. Yn ddiweddarach, âi Caradog i'r capel yn Llundain gyda Mattie a'u merch Mari, a hefyd yn achlysurol i Eglwys Bened Sant (Yr Eglwys yng Nghymru) yn Ninas Llundain.

Wedi ymddeol yn 1972, ysgrifennodd hunangofiant (Afal Drwg Adda) ac ambell erthygl a cholofn i bapurau newydd. Bu farw ym mis Chwefror 1980 ac y mae wedi'i gladdu ym mynwent Coetmor (adran Eglwys Robertson ohoni), Bethesda.

Cyhoeddir Un Nos Ola Leuad gan Y Lolfa.

Gyda diolch i Menna Baines, awdur ‘Yng Ngolau’r Lleuad: Ffaith a Dychmyg yng Ngwaith Caradog Prichard’, Gwasg Gomer, ac i Mari Prichard. Hefyd i Ystad Caradog Prichard am y lluniau.

Cod post: LL57 3BD    Map

button_tour_StrikesAndRiots-E Navigation previous buttonNavigation next button
button-tour-slate-trail button_nav_8W-NSbutton_nav_8W-NS