Safle anheddiad cynhanesyddol Parc Bryn Cegin
Saif Parc Bryn Cegin i'r dwyrain o'r rhyd a'r bont sgiw sy’n croesi Lôn Las Ogwen yma. Trwy waith cloddio archeolegol yn 2005 gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, daethpwyd o hyd i gyfoeth o archeoleg gynhanesyddol o dan y meysydd hyn.
Roedd olion adeilad mawr ffrâm bren yn dangos lle roedd pobl wedi byw tua 3700 CC, yn ystod y cyfnod Neolithig. Ar Barc Bryn Cegin yn yr Oes Neolithig Ddiweddar a'r Efydd, cloddiwyd pyllau ar gyfer cynhesu dŵr gan ddefnyddio cerrig poeth. Mae'n debyg y defnyddiwyd y rhain ar gyfer coginio, yn ogystal â swyddogaethau eraill,. Byddai’r gwres yn torri’r cerrig, ac fe’u lluchiwyd mewn tomeni o amgylch y pyllau, felly gelwir y safleoedd hyn yn ‘dwmpathau llosg’.
Mewn ardaloedd ucheldirol, mae twmpathau llosg i'w gweld yn y dirwedd. Yma roedd y twmpathau wedi eu gwastatáu gan ganrifoedd o aredig, a dim ond trwy gloddio y gellid eu darganfod.
Darganfuwyd sawl tŷ crwn o'r Oes Haearn hefyd. Roedd gan y rhain waliau clai ac roedd rhai wedi cael eu defnyddio yn y cyfnod Rhufeinig hefyd. Mewn un, darganfuwyd blwch sêl Rhufeinig mewn draen. Byddai'r blwch hwn – a welir yn y llun trwy garedigrwydd Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd – wedi amddiffyn y sêl gwyr ar ddogfen Rufeinig. Dadansoddwyd deunydd a ddarganfuwyd y tu mewn i'r blwch a gwelwyd mai olion y sêl gwyr ydoedd. Fodd bynnag, ni fyddai'r awdurdodau wedi anfon dogfennau i'r anheddiad brodorol hwn - felly efallai bod y preswylwyr wedi prynu neu ddwyn y gwrthrych tlws hwn!
Cyn i Ystâd Ddiwydiannol Llandygai gael ei hadeiladu gerllaw, darganfuwyd dwy heneb seremonïol fawr ar siap cylch, sef meingylch (‘henges’ yn Saesneg). Mae'r rhain yn dyddio i'r Cyfnod Neolithig Diweddar. Roedd cofeb hir gul hefyd - math o’r enw ‘cursus’ – a thŷ Neolithig Cynharach.
Mae'r holl safleoedd hyn yn dangos y byddai’r ardal wedi bod yn ganolbwynt pwysig i weithgaredd Neolithig.
Gyda diolch i Jane Kenney, o Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd