Wal Parc Penrhyn, Talybont, Bangor

button-theme-slavesMae'r wal gerrig hir yma yn amgáu Parc Penrhyn, a ddatblygwyd gan deulu a wnaeth ffortiwn o blanhigfeydd siwgr Jamaican a weithiwyd gan nifer fawr o gaethweision, ac o chwarela llechi yng Ngogledd Cymru.

O'r fan hon mae'r wal yn parhau tua'r gorllewin ac yna i'r gogledd heibio Llandygai a Phorth Penrhyn, y doc a ddatblygwyd ar gyfer allforion llechi’r teulu.

Mae'r prif borth i'r parc, i'r gorllewin o'r fan hon, yn cael ei ddefnyddio gan lawer o ymwelwyr â Chastell Penrhyn a'i diroedd, sydd bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gweler y ddolen isod am fanylion ymweld.

Disodlodd y castell faenordy a gafodd ei ehangu a'i gryfhau tua 1440. Adeiladwyd y castell presennol rhwng 1822 a 1837 ar gyfer George Hay-Dawkins Pennant. Roedd wedi priodi un o deulu Pennant, a oedd yn berchen ar ystâd Penrhyn. Roedd hefyd yn berchen ar blanhigfeydd siwgr yn Jamaica – planhigfyedd roedd Gifford Pennant wedi dechrau eu datblygu yn yr 17eg ganrif.

Etifeddwyd yr ystadau gan Richard Pennant, AS Lerpwl. Byddai’n siarad yn aml yn y Senedd i gefnogi caethwasiaeth, rhywbeth roedd ef a’r ddinas ill dau wedi elwa’n ariannol ohono. Roedd Richard, y Barwn Penrhyn 1af, yn berchen ar bron i 1,000 o gaethweision erbyn 1805. Bu farw ym 1808 a phasiodd ei ystadau i George.

Ar ôl i Brydain ddileu caethwasiaeth ym 1833, gwnaeth y Llywodraeth ddigolledu perchnogion caethweision am eu caethweision rhydd. Bu'n rhaid i George Pennant ryddhau 764 o gaethweision, ar bedair ystâd yn Jamaica. Am hyn, derbyniodd bron i £14,700 o iawndal, tua £1.8m yn arian heddiw. Ni dderbyniodd y caethweision unrhyw iawndal.

Bu farw George ym 1840 a throsglwyddodd ei gyfoeth helaeth i'w ferch Juliana a'i gŵr Edward, a wnaed yn Arglwydd Penrhyn ym 1866.

O 1782, datblygodd aelodau olynol o’r teulu chwarel Penrhyn, ger Bethesda, yn chwarel lechi fwyaf y byd. Fe wnaethant hefyd ariannu neu roi tir ar gyfer llawer o ffyrdd, tai, addoldai ac ysgolion.

Ymhlith y ffynonellau mae: Canolfan Astudio Cymynroddion Perchnogaeth Caethweision Prydeinig; a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Gwybodaeth i ymwelwyr a mwy o hanes - yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Map ​​​​​​​​​​​​

National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button