Rhyd a phont sgiw, ger Bangor

sign-out

Yn y cyffiniau hyn, mae Lôn Cefn Tŷ yn disgyn yn serth i gyrraedd rhyd, ar ôl croesi dros lwybr y Penrhyn Quarry Railway (PQR) ar bont sgiw. Llwybr y rheilffordd bellach yw llwybr beicio a throed Lôn Las Ogwen (hefyd yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru)

Photo of Penrhyn quarry train approaching skew bridgeAr hyd trac cul y PQR roedd wagenni yn cludo llechi o chwarel y Penrhyn, Bethesda, i Borth Penrhyn, lle y trosglwyddwyd y llechi i longau. Roedd y cledrau 578mm (1 troedfedd 10.75 modfedd) oddi wrth ei gilydd

Defnyddiodd y rheilffordd yn bennaf lwybr Tramffordd Penrhyn, a agorwyd ym 1801, ond yma cymerodd gwrs mwy gorllewinol a beiriannwyd yn yr 1870au er mwyn i locomotifau stêm i dynnu trenau o wagenni llechi. Roedd pontydd sgiw yn gymharol gymhleth i'w hadeiladu o gerrig neu frics, gan na allai'r cyrsiau fod yn gyfochrog â'r ategweithiau. Sylwch ar y patrwm danheddog ar bennau'r bwa brics yma.

Tynnwyd y llun, a ddangosir yma trwy garedigrwydd Tony Travis, ar 21 Awst 1959 o drên a oedd yn teithio tua'r de. Mae’n dangos y locomotif Blanche (bellach ar Reilffordd Ffestiniog) o dan y bont. Atodwyd cerbyd chwarelwyr, ar gyfer parti ysgol, at y wagenni llechi gwag arferol y diwrnod hwnnw.

I'r gorllewin o'r rhyd, mae Lôn Cefn Tŷ yn dringo ac yn pasio o dan hen bont reilffordd a oedd yn wreiddiol yn rhan o linell gangen (trac o led safonol) y London & North Western Railway. Roedd hyn yn arwain o Fethesda ac yn ymuno â'r prif rwydwaith rheilffyrdd yng Nghyffordd Bethesda, ychydig i'r gogledd o'r fan hon.

Mae gan y bont droed wrth ochr y rhyd ganllawiau ar y ddwy ochr. Roedd canllaw ar un ochr yn unig ym 1906, pan ddaethpwyd o hyd i gorff dyn yn afon Cegin heb unrhyw eitemau adnabod heblaw tocyn ar gyfer y Lehigh Valley Railroad – yn Pennsylvania! Roedd marc ar y bont droed yn cyfateb i sawdl esgid dde'r dyn. Roedd yn ymddangos ei fod wedi syrthio wrth groesi'r rhyd mewn tywyllwch. Yn y diwedd darganfu’r heddlu mai ef oedd Robert Roberts o Gae Esgob, Llanberis. Fe'i ganed tua 3km o'r rhyd. Roedd wedi byw bron i 40 mlynedd yn UDA a dychwelodd i Brydain wrth i'w iechyd ddirywio. Gadawodd weddw a phlant wedi tyfu i fyny yn America.

I'r dwyrain o'r rhyd mae Parc Bryn Cegin, safle anheddiad cynhanesyddol.

Gyda diolch i Robin Willis, of Gymdeithas y PQR, ac i Tony Travis

Map

National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button