Pontydd Porth Penrhyn, Bangor
Pontydd Porth Penrhyn, Bangor
Yma mae pedair bwa pont yn cludo dwy ffordd dros hen reilffyrdd ac afon Cegin
Mae'r ffordd uchaf yn arwain at fynedfa ochr i Barc Penrhyn, cartref y teulu a ddatblygodd chwarel y Penrhyn nes yr oedd yn fwy nag unrhyw chwarel lechi arall yn y byd. Datblygwyd Porth Penrhyn, yr harbwr yma, ar gyfer llwytho llongau â llechi wedi'u cludo o'r chwarel ar drac cul y Penrhyn Quarry Railway (PQR).
Aeth y PQR o dan ffordd yr ystâd lle mae cerddwyr a beicwyr bellach yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru a Lôn Las Ogwen. Roedd gan y PQR ddau drac cyfochrog yma, a dyna pam mae'r bwa yn lletach na'r arfer ar gyfer rheilffordd gul.
O dan y bwa i’r dwyrain – sydd bron yn union yr un fath – rhedai llinell un trac y London & North Western Railway, a osodwyd yn y 1850au. Roedd y trac, o led safonol, yn cysylltu Porth Penrhyn (a elwid yn Port Penrhyn yn hanesyddol) â rhwydwaith reilffyrdd Prydain.
Mae'r llun uchaf, trwy garedigrwydd Travel Lens Photographic, yn dangos y pontydd o'r de, wrth i’r locomotif Linda adael gyda wagenni llechi gwag ar y PQR.
I'r gorllewin o'r hen bontydd rheilffordd, mae bwa carreg ehangach yn pontio’r afon. Sylwch ar y parapet haearn bwrw addurnedig. Ym 1905 bu bron i ddamwain ar y ffordd yma ladd y Brigadydd-Cadfridog Charles Parker Ridley, a oedd wedi dychwelyd yn ddiweddar o Ryfel De Affrica (Rhyfel y Boer). Roedd yn teithio mewn car mawr, 30 marchnerth, gyda'i ferch Iris a'r Cyrnol John Higson o Lanrwst i gartref asiant Ystad y Penrhyn. Wrth bont yr afon, fe wnaeth y car sgidio a tharo rhan garreg y parapet. Chafodd neb ei anafu. Pe bai’r car wedi taro’r parapet haearn bwrw, mae'n debyg y byddai wedi cwympo i'r afon.
Mae dec y bont isaf dros yr afon ar raddiant i hwyluso'r ddringfa allan o Porth Penrhyn ar gyfer lorïau llwythog, gan gynnwys y rhai sy'n cludo cregyn gleision Menai i dir mawr Ewrop. Disodlodd hyn bont ffordd â rhychwantau haearn bwrw a oedd yn llorweddol ac hefyd yn cario trac rheilffordd cul i'r iard lo ar y lan orllewinol (lle mae peth o'r trac rheilffordd wedi goroesi). Mae'r llun isaf (hawlfraint: Gwasanaeth Archifau Gwynedd) yn dangos y bont wreiddiol c.1910.
Ger y bont hon y bu farw Robert Roberts o Dalybont ym mis Ionawr 1869, yn 21 oed. Roedd yn ddyn “ifanc golygus tal”. Pan oedd yn gweithio efo craen (wedi ei gofrestru i godi hyd at bedair tunnell) i symud sgwner ar draws yr afon i'r iard lo, torrodd jib haearn bwrw y craen o dan bwysau’r llong. Torrwyd penglog Robert a bu farw ar unwaith.
Gyda diolch i Wasanaeth Archifau Gwynedd, Travel Lens Photographic a Chymdeithas y PQR
Cod post: LL57 4HN Map
Gwefan Gwasanaeth Archifau Gwynedd