Nythfa Crehyrod Bach Copog, Llandygai, Bangor
Mae Crehyrod Bach Copog yn nythu mewn niferoedd mawr wrth ymyl afon Cegin yma, ar y lan gyferbyn â llwybr teithio llesol Lôn Las Ogwen. Yn yr haf gallwch weld crehyrod mewn oed a rhai o'r ifanc yn y coed. Mwynhewch yr olygfa o'r llwybr a pheidiwch ag aflonyddu ar yr adar.
Sefydlwyd y nythfa yn 2006. Erbyn 2010 hi oedd y nythfa Crehyrod Bach Copog fwyaf yng Nghymru, gydag oddeutu 50 i 60 nyth.
Ni fridiodd Crehyrod Bach Copog ym Mhrydain tan 1996, pan gododd pâr gywion yn Dorset. Cyn hynny roeddent yn ymwelwyr prin â Phrydain o dir bridio yn ne Ewrop. Dechreuon nhw fridio yng ngogledd Ffrainc yn yr 1980au, o bosib mewn ymateb i or-boblogi yn eu hardaloedd traddodiadol.
Bu Crehyrod Bach Copog yn bridio yng Nghymru am y tro cyntaf yn 2001, mewn nyth yng Ngwent. Y flwyddyn ganlynol, magodd dau bâr gyfanswm o bump ifanc ar ochr Ynys Môn o’r Fenai. Dyna oedd y bridio llwyddiannus cyntaf yng Ngogledd Cymru, er mae'n debyg y ceisiwyd bridio ers 2000.
Trosglwyddodd y nythfa o Ynys Môn i Borth Penrhyn yn 2006. Mae'r adar yn byw mewn lleoedd eraill yn y gaeaf. Gwelwyd un aderyn o Borth Penrhyn yn gaeafu yn yr Ynysoedd Dedwydd (Canary Islands)!
A allai Crehyrod Bach Copog fod wedi bridio yng Nghymru yn yr hen amseroedd? Dyfalodd y naturiaethwr a'r ysgrifennwr teithio Thomas Pennant y gallai'r rhywogaeth fod wedi bod yn gyffredin ym Mhrydain, cyn cael ei difodi gan fodau dynol. Roedd rhywun wedi anfon ato blu aderyn a saethwyd ar Ynys Môn cyn 1768, ac roedd Pennant yn amau eu bod yn perthyn i Grëyr Fach Copog. Er na wyddai am unrhyw gofnod arall ym Mhrydain, mae’r rhywogaeth wedi ei chynnwys yn ei lyfr British Zoology, a gyhoeddwyd ym 1812.
Gyda diolch i Julian Hughes, o'r RSPB, ac i Gwion Clark am y fideo. Ymhlith y ffynonellau mae ‘The Birds of Wales’, Gwasg Prifysgol Lerpwl, 2021