Hen bontydd rheilffordd Cegin, ger Bangor
Yma mae llwybr beicio a throed Lôn Las Ogwen yn croesi afon Cegin lle yr oedd pont yn cludo rheilffyrdd efo traciau cul a safonol. Ychydig iawn o bontydd rheilffordd ym Mhrydain oedd â thraciau lled safonol a chul ar yr un dec. Mae'r llun uchaf, gan y diweddar Eric Foulkes, yn dangos y rheilffyrdd a'r rheiliau gwirio cyfochrog, a fyddai'n cadw unrhyw drên a ddaeth oddi ar y cledrau i ffwrdd o'r parapetau.
Adeiladwyd y bont gyntaf dros yr afon yma ar ddiwedd y 18fed ganrif ac roedd yn rhan o Dramffordd Penrhyn o 1801. Mae ei dri bwa carreg wedi goroesi yn gyfan, wrth ochr y bont reilffordd. Yn y pen gogleddol mae rhychwant arall, sy'n ffurfio agoriad hirsgwar.
Roedd ceffylau’n tynnu llechi mewn wagenni chwarel ar hyd y dramffordd o chwarel Penrhyn ym Methesda i Borth Penrhyn (ychydig i'r gogledd o'r fan hon). Adeiladwyd y rheilffordd lled safonol ar y bont hon gan y London & North Western Railway yn y 1850au i gysylltu Porth Penrhyn â rhwydwaith reilffyrdd Prydain.
Wrth i chwarel Penrhyn dyfu i fod yn chwarel lechi fwyaf y byd, yn yr 1870au troswyd y rhan fwyaf o'r hen dramffordd i ffurfio rheilffordd, sef y Penrhyn Quarry Railway. Symudodd injieni stêm y PQR lawer iawn o lechi ar gledrau a oedd â dim ond 578mm (1 troedfedd 10.75 modfedd) rhyngddynt.
Yn yr ardal hon, peiriannwyd llwybr newydd. Gallwch weld pam os edrychwch i lawr ar hen lwybr y dramffordd i'r de o'r bont wreiddiol. Roedd y troad siap-S o dan y rheilffordd yn rhy grwm I locomotifau stem, hyd yn oed rhai ar drac cul.
Tynnwyd y llun isaf (a ddangosir trwy garedigrwydd Transport Treasury) gan Sydney Roberts ac mae'n dangos y locomotif PQR Blanche (sydd bellach ar Reilffordd Ffestiniog) yn dychwelyd wagenni gwag i Fethesda.
I'r de o'r fan hon roedd inclên disgyrchiant yn yr hen dramffordd lle roedd pwysau wagenni llwythog disgynnol yn tynnu wagenni gwag i fyny'r llethr, trwy gebl a drwm troellog. Adeiladwyd y PQR gyda graddiant cyson i osgoi'r llethr llafur-ddwys.
Ymgyfeiriodd y rheilffyrdd ar ôl pasio o dan y briffordd (yr A5 bellach). Ymunodd llinell LNWR â phrif reilffordd Caer i Gaergybi i'r gorllewin o dwnnel Llandygai.
Caeodd y ddwy reilffordd i mewn i Borth Penrhyn yn y 1960au a daeth y bont yn ddiffaith. Gosodwyd y dec newydd ar gyfer Lôn Las Ogwen ar bileri cerrig gwreiddiol y bont. Edrychwch dros y parapet i weld faint ehangach oedd y bont reilffordd.
Dangosir dolydd yr afon y gallwch ei weld y tu hwnt i bont y dramffordd ar hen fapiau fel corff o ddŵr o'r enw Cegin Pool.
Gyda diolch i Robin Willis a'r diweddar Eric Foulkes, o Gymdeithas Rheilffordd Chwarel Penrhyn, ac i Transport Treasury
Gwefan Transport Treasury – dros 500,000 o luniau hanesyddol o reilffyrdd a ffyrdd