Safle gorsaf rheilffordd Bethesda

sign-out

Safle gorsaf rheilffordd Bethesda

bethesda_railway_station

Saif Canolfan Feddygol Yr Hen Orsaf yn rhan o safle gorsaf rheilffordd ac iard nwyddau Bethesda, sef pen draw’r lein gangen o Landygái a agorwyd ym 1884.

Agorwyd lein fach gul Chwarel y Penrhyn ym 1801 i gludo llechi o’r chwarel i’r porthladd ym Mangor. Byddai’r lein fach yn cludo chwarelwyr ond nid teithwyr eraill. Wedi i drigolion a masnachwyr Bethesda lobïo Rheilffordd y London & North Western Railway cafwyd lein gangen â lled safonol, 7km o hyd. Codwyd dwy draphont a thyllwyd twnnel.

Roedd platfform gorsaf Bethesda dros 120 metr (400 troedfedd) o hyd, gyda goleuadau nwy ac ystafelloedd aros ar wahân ar gyfer teithwyr dosbarth cyntaf a rhai trydydd dosbarth. Mae i’w weld yn y llun ar y dde (hawlfraint: Gwasanaeth Archifau Gwynedd) gyda locomotif LNWR “Webb Coal Tank”, tua 1895.

bethesda_stationmaster_gillett

Cafodd yr LNWR glod am benodi Gymro o’r enw Mr Pierce fel y gorsaf-feistr cyntaf. Mae’r llun ar y chwith (hawlfraint: Gwasanaeth Archifau Gwynedd) yn dangos Charles Gillett, un o’r gorsaf-feistri ar ddechrau’r 20fed ganrif. Bu farw ei fab, Llewelyn, a fu gynt yn canu yng nghôr Eglwys Glanogwen, yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe’i claddwyd yn Jerusalem.

Yn yr iard nwyddau i’r dwyrain i’r orsaf, yr oedd sied nwyddau (i drosglwyddo nwyddau rhwng y rheilffordd a’r ffyrdd), ffaldau gwartheg â chyflenwad o ddŵr, craen a llwyfan lwytho ar gyfer ceffylau a cherbydau.

Agorodd y rheilffordd y dref a Nant Ffrancon i dwristiaid. Roedd rhai yn gobeithio estyn y lein i Gapel Curig.

Cludodd y trenau lawer o ddynion o Fethesda yn ystod y Streic Fawr yn y chwarel. Ar ôl gwyliau’r Sulgwyn ym 1901, darparodd yr LNWR drên arbennig o Fethesda gan fod cynifer o ddynion yn gorfod dychwelyd i’w gwaith yn y De ac mewn llefydd eraill. Cludodd y trên lawer o bobl hefyd oedd yn gadael Bethesda i chwilio am waith newydd.

Un nos Sadwrn ym 1902, cafodd ffenestri yn yr orsaf eu malu oherwydd bod pobl yn amau bod “bradwyr”, chwarelwyr oedd wedi dychwelyd i’r gwaith, yn cuddio yno. Anfonwyd 50 o heddweision ychwanegol i Fethesda y noson honno. Anfonwyd heddlu-farchogion o Lerpwl i Fangor, lle roedd streicwyr a bradwyr yn cwffio.

Collodd y lein gangen ei threnau teithwyr yn Rhagfyr 1951 ond parhaodd trenau nwyddau i redeg tan 1963. Mae Lôn Las Ogwen, y llwybr beicio a cherdded, yn dilyn rhannau o lwybr y rheilffordd heddiw. Ail-agorwyd yr hen dwnnel i’r gogledd i Fethesda fel rhan o’r Lôn Las yn 2017.

Diolch i Dr Paul Rowlinson am y cyfieithiad

Cod post: LL57 3NE    Map

Gwefan Gwasanaeth Archifau Gwynedd
button_tour_StrikesAndRiots-E Navigation previous buttonNavigation next button
button-tour-slate-trail previous page in tournext page in tour