Hen gartref Elizabeth Williams, Bethesda

button-theme-womenHen gartref Elizabeth Williams, Bethesda

bethesda_view_towards_coetmor_mount

Mae’r lôn gefn yma yn arwain at Ffordd Coetmor, lle bu Elizabeth Ellen Williams, merch i chwarelwr, yn byw ar un adeg. Am bythefnos ym 1901, cafodd Elizabeth enwogrwydd yn lleol ac yn genedlaethol. Mae ei hanes, yn ystod y Streic Fawr, 1900-1903, ac wedyn, yn adlewyrchu profiadau llawer o ferched ym Methesda bryd hynny. 

Yn yr hen gerdyn post, mae tai Ffordd Coetmor i’w gweld i fyny’r bryn yn y pellter.

Cafodd Elizabeth ei geni a’i magu ym Methesda ac fe briododd William David Williams, chwarelwr, ym 1898. Yn fuan wedyn, daeth y streic â chyni i’w theulu, oedd yn dibynnu ar y chwarel.

Pan oedd y chwarel yn paratoi i ailagor yn haf 1901, credai llawer o’r streicwyr y byddai chwarelwyr profiadol yn dychwelyd at eu gwaith, gan dorri’r streic. Yn sgil hynny, cynhaliwyd gwrthdystiadau. Bu Elizabeth a’i gŵr, yn cario eu mab dyflwydd oed Daniel Gwynsul, yn rhan o grŵp o brotestwyr a ddilynodd ddau o swyddogion y chwarel, o’r chwarel i’w cartrefi yn Rachub.

Cafodd Elizabeth, 22 oed, ei dwyn gerbron y llys. Cafwyd adroddiadau am yr achos ledled y wlad. Fe’i cynrychiolwyd gan William George (brawd iau David Lloyd George, a ddaeth yn brif weinidog),

Nododd y Cwnstabl Thomas fod Elizabeth “yn bloeddio’n groch, ac yn ymddangos wedi cynhyrfu’n fawr … Roedd yn chwysu fel mochyn ac roedd ei hwyneb yn goch”. Mynnodd mai’r “bloeddio”, nid cerdded ar dywydd poeth, oedd yn gyfrifol am wyneb coch Elizabeth.

Dywedodd Mr Vincent, yn cynrychioli’r Arglwydd Penrhyn, perchennog y chwarel, wrth y llys ei bod wedi derbyn gwŷs oherwydd “bod y merched ym Methesda yn waeth na’r dynion a da o beth mewn achos nodedig o’r fath fyddai cael un o’r rhyw deg gerbron y Fainc, i weld beth fyddai ganddi i’w ddweud drosti ei hun”. Er iddo ofyn am y gosb uchaf bosibl sef £20 (bron i £5,000 yn arian heddiw), cafodd ddirwy o 5 swllt a chostau.

Yr wythnos wedyn, gorymdeithiodd Elizabeth mewn torf o filoedd o Bont y Tŵr i Neuadd y Farchnad (Neuadd Ogwen) ar gyfer cyfarfod wythnosol y streicwyr. Pan gerddodd hi i’r llwyfan cafodd gymeradwyaeth uchel. 

Ar ôl ei chyfnod byr o enwogrwydd, roedd ei bywyd yn nodweddiadol o fywyd llawer o drigolion Bethesda. Mudodd ei gŵr i Gaerau, i’r gogledd i Ben-y-bont ar Ogwr i weithio fel glöwr. Aeth Elizabeth a Daniel gydag ef. Yn y pen draw (ar ôl 1911) dychwelsant i Fethesda. Erbyn 1939 roeddent yn byw yn Ffordd Carneddi ac roedd David, 69, yn gweithio fel labrwr cyffredinol. Roedd eu bywyd yn dal i fod yn galed ond o leiaf roeddent gartref.

Gyda diolch i Dr Hazel Pierce, o The History House, ac i Dr Paul Rowlinson am y cyfieithiad

Map

button_tour_StrikesAndRiots-E Navigation previous buttonNavigation next button
button-tour-slate-trail previous page in tournext page in tour