Lladd yn yr Hendy yn ystod Terfysg Beca

button-theme-womenbutton-theme-crime

Lladd yn yr Hendy yn ystod Terfysg Beca

Yn 1843 yn ystod Terfysg Beca lladdwyd gwraig oedrannus ger y safle hon. Ei gwaith oedd casglu tollau gan y rheini a oedd yn teithio ar hyd y ffordd rhwng Pontarddulais a Llanelli.

Cafwyd terfysgoedd mewn sawl ardal ar draws de-orllewin Cymru rhwng 1839 a 1843. Ymosodwyd ar dollbyrth gan eu bod yn arwyddion gweladwy o amryw anghyfiawnderau a wasgai ar dlodion llawr gwlad. Ceir rhagor o wybodaeth gefndirol ar y dudalen sy’n disgrifio ymosodiad cyntaf merched Beca yn Efail-wen.

Roedd hi’n anarferol i derfysgwyr ddefnyddio trais yn erbyn pobl, ac eithrio heddlu a lluoedd arfog. Ond yn y pen draw manteisiwyd ar y mudiad gan ddihirod â’u bryd ar drais. Pan ddechreuodd criw o ddynion mewn dillad merched ymosod ar dollborth yr Hendy yn ystod y nos rhwng 9 a10 Medi 1843, gorchmynnwyd Sarah Williams,75 oed, ceidwad y tollborth, i ymadael â’r ardal. Wedi symud y celfi o’r tŷ, cafodd ei losgi. Holodd Sarah i’w chymdogion, teulu Thomas, am help i ddiffodd y fflamau. Roedd gormod o ofn arnynt fynd gyda hi.

Cafodd Sarah ei saethu ger y tolldy. Dychwelodd at ddrws y Thomasiaid ac yngan “Diar, diar!”, cyn marw. Cludwyd ei chorff i’r Black Horse, ym Mhontarddulais, a chanfu’r post mortem amryw glwyfau bwledi a llawer o waed wedi cronni yng ngheudodau’r frest. Ni chafodd neb ei ddedfrydu am ei llofruddio er cynnig dros £1,000 am wybodaeth – dros £120,000 o ran gwerth arian heddiw.

Roedd marwolaeth Sarah yn eironig gan mai cais gan y Llywodraeth i reoli bywydau merched cefn gwlad oedd un annhegwch a daniodd Derfysg Beca. Yng nghefn gwlad, roedd cyfartaledd  llawer uwch o wragedd nag o ddynion (a dueddai farw’n ifanc yn sgil llafurio caled a damweiniau) ac roedd gofid y gallai cynifer o ferched dibriod a gweddwon fygwth safonau moesol y cyhoedd.

Ynghylch yr enw lle

Yr elfennau yn yr enw yw ‘hen’ a ‘tŷ’. Mae’r pentref wedi’i enwi ar ôl gwaith alcam Hendy Tinplate a adeiladwyd ar dir fferm Hendy yn 1866.

Gyda diolch i’r Athro Dai Thorne, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru  

Cod post: SA4 0XE    Map