Cob Malltraeth
Mae Llwybr Arfordir Cymru a ffordd yr A4080 yn croesi afon Cefni yma ar arglawdd isel a phont o’r enw Cob Malltraeth. Cafodd ei awdurdodi gan Senedd San Steffan yn 1790. Safodd y Cob gwreiddiol ond ychydig o flynyddoedd cyn i’r llanw ei dorri mewn dau le.
Ailadeiladwyd y Cob yn 1812. Roedd yn elfen allweddol o'r seilwaith a alluogodd i forfa heli’r Cefni gael ei ddraenio. Adlewyrchir ei bwysigrwydd lleol yng ngeiriau’r gân werin Cob Malltraeth, lle mae'r canwr yn dychmygu’r canlyniadau petai’r Cob yn dymchwel - cliciwch yma i glywed a darllen am y gân.
Wrth sefyll ar y Cob, sylwch ar y gwrthgyferbyniad rhwng y golygfeydd i lawr yr afon ac i fyny'r afon, lle y mae byndiau syth ar bob ochr i’r afon. Cyn i'r ardal gael ei draenio, roedd afon Cefni yn llifo’n araf trwy ehangder o laid a thywod.
Mae enw pentref Malltraeth yn adlwyrchu’r ehangder o dywod a arferai fodoli yma. Mae peth ohono wedi goroesi i lawr yr afon o'r Cob. Mae Malltraeth yn golygu "traeth afiach" ac fe gofnodwyd yr enw yn 1304 neu’n gynharach. Adlewyrchir maint y traeth blaenorol yn yr enwau Trefdraeth ("fferm y traeth") a Glantraeth, i'r gogledd o Falltraeth ac yn awr ymhell o’r lan.
Adnabwyd y pentref fel Rhyd y Maen Du yn y 18fed ganrif, pan oedd nifer o rydau yn darparu llwybrau elfennol ar draws yr afon. Yn hwyrach Iard Malltraeth - yn aml “Yr Iard” – oedd enw’r pentref. Roedd deunyddiau, offer a llawer o ddynion wedi eu lleoli yno am oddeutu 18 mis ar gyfer codi’r Cob.
Yn ddiweddarach fyth, cynhaliodd y pentref iard fechan adeiladwyr llongau, pan oedd y pentref yn gysylltiedig â'r diwydiant glo. Yn y 19eg ganrif, cloddiwyd glo ar y corstir a oedd wedi'i ddraenio rhwng Malltraeth a Gaerwen. Daeth peth o'r glo at y pentref i'w gludo ymlaen ar y môr, cyn agor y rheilffordd drwy Gaerwen yn 1848. Cafodd pwll glo Berw injan stêm newyedd yn 1815. Gwerthwyd offer y lofa yn 1875.
Cod post: LL62 5AS Map
Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru