Cân werin Cob Malltraeth, Malltraeth
Cân werin Cob Malltraeth, Malltraeth
Mae Cob Malltraeth, sydd yma’n cario'r ffordd a Llwybr Arfordir Cymru dros yr afon Cefni, yn destun cân werin sydd wedi diddanu cynulleidfaoedd di-ri mewn cyngherddau ac eisteddfodau.
I glywed recordiad hanesyddol o’r gân, trwy garedigrwydd archifau Amgueddfa Genedlaethol Cymru, pwyswch chwarae: neu lawrtlythwch mp3 (995KB)
Cafodd y recordiad ei wneud yn 1963. Y canwr oedd T Morris Owen, a fagwyd ym Môn tua diwedd oes Fictoria. Am fwy o wybodaeth amdano, dilynwch y ddolen isod i wefan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (lle gallwch hefyd ddarganfod caneuon gwerin eraill).
Mae'r gân yn ymwneud ag ofnau’r canwr o'r hyn a allai ddigwydd petai Cob Malltraeth yn dymchwel. Mae'n debyg i'r niwrosis hwn ddeillio o ddrylliad y Cob gwreiddiol gan y môr o fewn ychydig flynyddoedd o'i hadeiladu ar ddiwedd y 18fed ganrif. Cwblhawyd y Cob a welwn heddiw yn 1812 - cliciwch yma am ein tudalen am y strwythur.
Cafwyd y dôn ei nodiannu a’i gyhoeddi ym 1914 gan Grace Gwyneddon Davies yn Alawon Gwerin Môn, casgliad o saith o ganeuon gwerin o’r ynys. Roedd hi wedi casglu y rhan fwyaf o'r caneuon drwy wrando ar Owen Parry, o Ddwyran, yn eu canu.
Cod post: LL62 5AS Map
Mwy am Cob Malltraeth – gwefan Amgueddfa Genedlaethol Cymru
![]() |
![]() ![]() |