Safle ymadawiad Tywysog Madog 1170
Safle ymadawiad Tywysog Madog ym 1170, Ffordd Glan-y-Môr, Llandrillo-yn-Rhos
Lleolir y cwrs golff i’r de-orllewin ar dir gwastad lle y llifai moryd Conwy ers talwm. Roedd yna harbwr wrth aber y foryd. Mae olion o hen gei yng ngardd y tŷ cyferbyn.
O’r fan yma, yn ôl y chwedl, yr ymadawodd Tywysog Madog ab Owain Gwynedd ar ei fordaith i America ym 1170. Roedd Madog wedi blino ar y brwydo di-derfyn yng Nghymru, ac fe aeth â llynges i fforio môr y gorllewin. Yn ôl y stori, gadawodd 100 o ddynion i ffurfio gwladfa newydd pan gyrrhaeddod y llongau America – efallai Florida neu Alabama heddiw. Dychwelodd Madog efo rhai o’i ddynion i Gymru i hel mwy o gyfaneddwyr. Llanwodd 10 llong efo dynion a gwragedd a hwyliodd eto tua’r gorllewin. Ni welwyd mohono eto yng Nghymru.
Er na ddychwelodd yr un tyst i Gymru, mae yna hen stori fod Madog wedi teithio’n eang yn America a dod yn gyfeillgar efo rhai llywthau cynhenid a dysgu Cymraeg iddynt. Mae storiau gan deithwyr diweddarach yn son am Americanwyr cynhenid yn siarad Cymraeg ac hyd yn oed rhai llwythau yn defnyddio cwraglau tebyg i rai Cymreig. Mae’r chwedl wedi ysbrydoli beirdd a storiwyr di-ri, ac mae’r chwilio am dystiolaeth i brofi’r hanes yn parhau yn yr Unol Daleithiau!
Gyda diolch i John Lawson-Reay, o Gymdeithas Hanes Llandudno a Bae Colwyn Bay
Côd Post: LL28 4HU Map