Pont Grog y Borth
Pont Grog y Borth
Pan agorwyd y bont hon ym 1826, ei rhychwant o 176 metr oedd yr hiraf yn y byd. Fe'i cynlluniwyd gan Thomas Telford i goroni ei waith o greu ffordd newydd o Lundain i Gaergybi. Roedd cost uchel y cynllun ffordd yn cael ei gyfiawnhau gan bwysigrwydd y llongau rhwng Caergybi a Dulyn. Trawsffurfiodd y bont hefyd y berthynas lleol rhwng Ynys Môn a'r tir mawr, gan y medrai pobl bellach groesi'r Fenai boed glaw neu hindda. Yn flaenorol, roeddent yn dibynnu ar y cychod fferi, a chollwyd nifer o fywydau mewn damweiniau ar y cerrynt troellog.
Roedd ffurf y bont yn ymateb i ofynion y Morlys, a fynnai cael 30 metr o uchder clir er mwyn galluogi llongau hwylio i basio o dan y groesfan sefydlog. Manteisiodd Telford ar y tir uchel ar y ddwy lan yn y fan hon, a oedd hefyd yn cyd-fynd gydag un o fannau culaf y Fenai. Er hynny, roedd yn rhaid iddo godi pileri cerrig sylweddol a thraphontydd cyn cychwyn ar y gwaith o osod y cadwyni haearn yn eu llefydd. Cafodd pob un o'r 16 cadwyn ei glymu at y tir yn un pen, yna tynnodd timau o tua 150 o ddynion ben arall pob cadwyn i fyny i ben y golofn ar y lan gyferbyn. Wedyn crewyd dec y bont, a oedd yn hongian o’r cadwyni.
Difrodwyd y bont gan wyntoedd uchel yn ystod ei degawdau cynnar, a dinistriwyd y dec ei hun ym 1839. Crewyd dec o ddur (yn hytrach na haearn) yn y 19eg ganrif, a gwnaethpwyd gwelliannau pellach ym 1908. Cafodd y bont ei uwchraddio o 1938 i 1940 i ymdopi â'r twf yn y traffig, o ran niferoedd a phwysau'r cerbydau. Ychwanegwyd y palmentydd, sy’n cario Llwybr Arfordir Cymru dros y Fenai, hefyd ar ôl i Telford gwblhau ei waith.
Ni wnaethpwyd cymaint o newidiadau i bont crog Telford yng Nghonwy, sydd erbyn hyn yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yno fe all ymwelwyr gael syniad o sut y byddai Bont Grog y Borth wedi ymaddangos yn wreiddiol.
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |