Cymraeg Anglesey Arms, Menai Bridge
Tafarn yr Anglesey Arms
Hon oedd y dafarn gyntaf i’w hadeiladu ar Ynys Môn mewn ymateb i adeiladu Pont Grog y Borth, a agorwyd ym 1826. Fe'i codwyd ar y tir addas agosaf at y bont, gyda’r bwriad o ddenu sylw’r fasnach a basiai ar y ffordd newydd. Yn flaenorol, canolbwynt busnes Porthaethwy oedd y lan, lle’r ymadawai cychod fferi i groesi’r Fenai.
Prynodd bragdy JW Lees yr adeilad gan William Ellis yn 1935. Parhaodd Mr Ellis i reoli’r dafarn tan 1945. Heddiw enwir un o'r ystafelloedd ar ei ôl.
Mae delweddau yn dangos hanes lleol, gan gynnwys y cerbyd cyntaf i groesi'r bont grog, i’wgweld y tu mewn i'r Anglesey Arms. Roedd y chwip a ddefnyddiwyd gan yrrwr y cerbyd cyntaf yn cael ei harrddangos yn flaenorol uwchben y bar. Fe'i rhoddwyd i Ganolfan Thomas Telford, ychydig ym mhellach i lawr y ffordd, pan adnewyddwyd yr Anglesey Arms yn 2011.
Mae rhai pobl wedi adross hanesion o endidau paranormal yn yr adeilad, gan gynnwys ysbryd o hen ddyn bach.
Postcode: LL59 5EA View Location Map
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |