Cymraeg Footnotes to Quarry strike memorial, Bethesda
TROEDNODIADAU: Cefndir y streic
Yn 1900 gwaharddodd rheolwyr chwarel y Penrhyn gasglu tâl undeb yn y chwarel. Ym mis Hydref, diswyddwyd 26 o ddynion yn sgil ymosodiad honedig ar gontractwyr a oedd wedi cytuno i weithio yn un rhan o'r chwarel. Daeth achos y dynion gerbron yr ynadon yn y pen draw a gorymdeithiodd y rhan fwyaf o’r gweithlu i Fangor i gefnogi eu cydweithwyr.
Y gosb fu gwahardd y gorymdeithwyr o'r chwarel am bythefnos. Er hynny, gorymdeithiodd y gweithlu i Fangor drachefn ar gyfer diwedd yr achos llys. Cafwyd 20 o'r 26 yn ddieuog. Yn dilyn y gwaharddiad, caewyd rhannau helaeth o'r chwarel dros dro, gan adael 800 o ddynion heb waith. Ar 22 Tachwedd 1900, ataliodd 2,000 o chwarelwyr eu llafur i ddangos cefnogaeth. Parhaodd y streic tan Tachwedd 1903. Crebachodd cyfoeth personol yr Arglwydd Penrhyn yn sylweddol. Rhwygwyd y gymuned pan ddychwelodd rhai chwarelwyr i’w gwaith yn ystod y streic. Dangosai teuluoedd y streicwyr bosteri yn eu ffenestri a oedd yn datgan â balchter: "Nid oes bradwr yn y tŷ hwn.”
Mae chwarel y Penrhyn yn dal i gynhyrchu llechi to o ansawdd uchel. Bellach mae’n eiddo i gwmni Welsh Slate Ltd. Yn sgil cyflwyno gweithdrefnau cyfoes rhaid wrth lai na 10% o weithlu 1900.