Cyn gartref peiriannydd harbwr D-Day, Ffordd Garth, Bangor

Cafodd Hugh Iorys Hughes, oedd yn byw yma, y syniad o harbwr arnofiol ar gyfer glaniadau D-Day yn Ffrainc yn 1944.

Cafodd ei eni ym Mangor yn 1902, ac addysgwyd ef yn Ysgol Friars yn bennaf cyn astudio peirianneg ym Mhrifysgol Sheffield. Roedd yn dod o deulu o forwyr brwd ac yn aml yn rasio ar Afon Menai gyda'i dad a'i ddau frawd. Yn ddiweddarach dyluniodd lawer o'r cychod a hwyliodd. Ar ôl graddio, sefydlodd ei hun fel peiriannydd sifil yn Llundain. Un o'i weithiau oedd y dyluniad ar gyfer y doc sych a berthynai'r clipiwr Cutty Sark a ddifrodwyd yn y tân trychinebus yn 2007.

Yn gynnar yn yr Ail Ryfel Byd, meddyliodd Hugh y gallai fod angen harbwr arnofiol yn ddiweddarach yn y rhyfel, i lanio milwyr a chyflenwadau ar bridd Ewropeaidd heb yr anhawster o gipio porthladd amddiffynedig yn gyntaf. Anfonodd ei syniad a'i luniau i'r Swyddfa Ryfel ond ni chymerwyd ei fenter nes i'w frawd Sior Hughes, Cadlywydd yng Ngwarchodfa Wirfoddol y Llynges Frenhinol, greu argraff am y cynllun ar uwch gydweithiwr ac ail-ystyriwyd y syniad.

Ym mis Mehefin 1942, gofynnwyd i Hugh gynhyrchu cynlluniau ar gyfer prototeip "harbwr arnofiol" y gellid ei dynnu i Normandi a'i osod ar y traethau bas. Gweithiodd Hughes yn ddiflino dros y misoedd nesaf ar ei weledigaeth. Cafodd y prototeipiau eu hadeiladu a'u lansio wrth aber afon Conwy, ac roedd yn gwybod ei fod yn addas o'i brofiad o hwylio ar hyd arfordir Gogledd Cymru. 

Profwyd y prototeipiau, ynghyd â dau arall, yn ne-orllewin yr Alban. Penderfynodd y Swyddfa Ryfel mai ei dyluniad ei hun oedd y gorau a cadwyd Hugh ymlaen fel ymgynghorydd. Bu'n gweithio ar y cyfrifiadau ar gyfer torddwr, i amddiffyn y pieri a elwir bellach yn Harbwr Mulberry. 

Ar ôl y rhyfel parhaodd i ymarfer o'i swyddfeydd yn Llundain, gan ddylunio adeiladau a seilwaith trafnidiaeth ar gyfer y ddinas wrth fwynhau ei gariad at hwylio. Yn ddyn diymhongar, gellid dadlau na chafodd Hugh y gydnabyddiaeth am ei wasanaeth yn ystod y rhyfel yr oedd yn ei haeddu. Bu farw yn 1977 a gwasgarwyd ei lwch ar Afon Menai. 

Gyda diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa Ffrynt Cartref, Llandudno, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL57 2RY    Gweld Map Lleoliad

Telfords Irish Road Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button