Cyn-gartref Islwyn Ffowc Elis, Bangor

Cyn-gartref Islwyn Ffowc Elis

Yn y tŷ o’r enw Irfon, yn Nheras Gordon, y bu Islwyn Ffowc Elis (1924-2004) a’i wraig, Eirlys, rhwng 1955 a dechrau’r 1960au. Ei rieni-yng-nghyfraith oedd perchnogion y tŷ. Yma yr aeth ati, mewn stydi ar y llawr uchaf, i ysgrifennu ei drydedd nofel, Yn Ôl i Leifior, a gyhoeddwyd yn 1956. 

Hon oedd nofel ddilyniant Cysgod y Cryman, saga gymdeithasol am wrthdaro rhwng dwy genhedlaeth ar fferm deuluol fawr yn Sir Drefaldwyn.  Yn y sir honno yr oedd Islwyn Ffowc Elis yn byw - fel gweinidog yn Llanfair Caereinion rhwng 1950 a 1953 - pan gyhoeddwyd Cysgod y Cryman yn 1953.  Honno oedd ei nofel gyntaf a phrofodd i fod yn un o nofelau mwyaf poblogaidd yr ugeinfed ganrif: arllwysodd waed newydd i wythiennau’r nofel Gymraeg, ysbrydolodd do newydd o awduron i fynd i’r afael â’r genre, a sefydlodd enw ei hawdur fel prif nofelydd Cymraeg ei gyfnod. Pan bleidleisiodd darllenwyr Cymraeg yn 1999 am Lyfr y Ganrif, dyma’r teitl a ddaeth i’r brig. 

Llai poblogaidd oedd ei ail nofel, Ffenestri Tua’r Gwyll, a gyhoeddwyd yn 1955. Ysgrifennodd ei ail nofel tra oedd yn weinidog yn Niwbwrch, Ynys Môn, rhwng 1953 a 1956.  Yn ystod ei gyfnod yno torrodd ei iechyd a’r diwedd fu iddo roi’r gorau i’w weinidogaeth a rhoi cynnig ar ennill ei fywoliaeth fel awdur ar ei liwt ei hun.  Gwnaeth gryn dipyn o waith yn y cyfnod hwn i’r BBC ym Mryn Meirion, a cheisiodd ailadfer ei boblogrwydd fel awdur drwy ysgrifennu nofel ddilyniant i Cysgod y Cryman.  Cyfeiriodd yn ddiweddarach at "chwe blynedd a hanner hapus ym Mangor": yn ystod y cyfnod hwn ysgrifennodd dair nofel arall a ganwyd ei ferch, Siân, yn 1960. 

Dyma oedd yr ail waith i Islwyn Ffowc Elis fyw ym Mangor:  yr un fath â Harri Vaughan, prif gymeriad Cysgod y Cryman, yn y ddinas y treuliodd ei ddyddiau fel myfyriwr israddedig.  Cyfeiriodd yn gofiadwy at ei gyfnod yn fyfyriwr mewn ysgrif yn ei gyfrol gyntaf o ryddiaith greadigol, Cyn Oeri’r Gwaed, casgliad o ysgrifau a enillodd iddo’r Fedal Ryddiaith yn 1951: "Ac yna, daeth dyddiau Bangor.  Ni bu, ac ni bydd eu tebyg.  Pe rhoed imi erddi Babilon neu filiynau anghyfrif Rockefeller, nid wyf yn credu heddiw y newidiwn hwy am y pum mlynedd meddwol hynny."

Gyda diolch i’r Athro Gerwyn Wiliams, o Brifysgol Bangor, a Sarah Kelly, ac i Patricia Lindsay, o Gymdeithas Ddinesig Bangor, am awgrymu’r HiPoint hwn

Ymhle mae’r HiPoint hwn?

Troednodiadau: Atgofion

Mae Sarah Kelly yn cofio Islwyn Ffowc Elis ym Mhrifysgol Bangor, lle y cychwynodd hi yn fyfyriwr israddedig o 1947.

“Yn y dyddiau hynny roedd y coleg llawer llai nag heddiw. Roedd pawb yn adnabod ei gilydd. Byddai’r siaradwyr Cymraeg yn dweud helo wrth ei gilydd.

“Roedd o’n gymeriad dymunol. Syrthiodd ffrind i mi mewn cariad efo fo. Cafon ni waith mawr gyda hi – fe briododd o rhywun arall.”

Prynodd mam a chwaer Mrs Kelly Irfon, y tŷ mawr yn Nheras Gordon, ym 1963.

Telfords Irish Road Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button