Safle ffatri awyrennau bomio'r Awyrlu, ger Gilfach Ddu

button-theme-evacSafle ffatri awyrennau bomio'r Awyrlu, ger Gilfach Ddu

Mae rhan isaf y llwybr troed hwn yn croesi hen dwnnel rheilffordd lle gwnaed rhannau ar gyfer awyrennau bomio'r Awyrlu yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Cludid llechi ar wagenni lein fach drwy dwnnel Glan y Bala o ardal Wellington chwarel Dinorwig, i’r de ddwyrain o’r fan hon. Ym mhen draw'r twnnel, llwythid y wagenni ar drenau lletach Rheilffordd Padarn (y ‘Ceir Mawr’) yn Gilfach Ddu i'w cludo i'r doc yn y Felinheli. Yn 1889, dargyfeiriwyd y rheilffordd rhwng Hafod Owen/Muriau a Gilfach Ddu i redeg ar hyd glan Llyn Peris a heibio ymyl ddwyreiniol y gweithdai chwarel yn Gilfach Ddu.

Yn ystod y rhyfel, meddiannwyd y siediau mawr lle gynt yr oedd llechi'n cael eu torri a'u hollti, gan Gwmni Awyrennau Arfordir y Gogledd Ddwyrain (NECACO), adeiladwr awyrennau o Newcastle upon Tyne. O fis Tachwedd 1940 hyd ddiwedd y rhyfel, cynhyrchwyd rhannau a darnau sbâr ar gyfer awyrennau bomio Lancaster, Stirling, Halifax a Wellington yn Llanberis ac ar dri safle NECACO yng Nghaernarfon gerllaw. Cliriwyd hen dwnnel y rheilffordd a'i ehangu er mwyn i rai o'r peiriannau gael eu gosod y tu mewn.

Aerial photo of former aircraft parts factory in 1946

Roedd llawer o ddynion a merched yn cael eu cyflogi yn safle Llanberis, gan weithio shifftiau 12 awr. Byddai bysus yn dod â gweithwyr i mewn bob dydd o cyn belled i ffwrdd ag Ynys Môn a'r Bala. Roedd yr amodau yn aml yn wael, yn enwedig yn y twnnel llaith. Roedd pryderon am iechyd pobl oedd yn cael eu hamddifadu o olau haul ddydd ar ôl dydd, a dywedir bod gweithwyr yn cael cyfle i ddefnyddio lampau pelydr-haul uwchfioled yn ysbyty’r chwarel.

Er gwaethaf y shifftiau hir, gallai gweithwyr fwynhau'r cyfleusterau yng nghlwb gweithwyr y cwmni ym Mhenllyn, Caernarfon. Roedd y digwyddiadau yno yn cynnwys dawnsfeydd ar nos Sadwrn.

Cafodd hen safle NECACO ei ddileu pan adeiladwyd gorsaf bŵer danddaearol Dinorwig yn y 1970au. Gallwch weld agoriad gogleddol y twnnel yn Gilfach Ddu.

Mae awyrlun o 1946, drwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos hen adeiladau NECACO yn y gwaelod ar y dde, gyda cheg ddeheuol y twnnel ar y chwith iddynt. Mae ceg ogleddol y twnnel yn y gornel chwith uchaf. Mae'r llwybr troed yn y canol, yn igam-ogamu rhwng tomenni gwastraff.

Gyda diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa Home Front, Llandudno

Cyllidwyd y cyfieithiad hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Cod post: LL55 4TY    Map

button-tour-town-quarry Navigation next buttonNavigation previous button