Llwybr Main y chwarelwyr, Chwarel Dinorwig

Llwybr Main y chwarelwyr, Chwarel Dinorwig

Mae'r llwybr troed o lannau Llyn Peris i bonciau uwch hen chwarel lechi Dinorwig yn dilyn y Llwybr Main. Roedd chwarelwyr dirifedi yn defnyddio'r llwybr hwn i fynd i'r gwaith, i Farics Y Dre Newydd (Anglesey Barracks) ac i lety arall ar ochr y bryn.

Ni ddefnyddir rhan o ochr is y llwybr gwreiddiol ond mae'r rhan fwyaf o'r llwybr yn dal mewn cyflwr da. Roedd y waliau llechi ar y ddwy ochr yn rhoi cysgod i'r chwarelwyr rhag y gwynt wrth iddynt gerdded. Mae'r llwybr yn dilyn cwrs igam-ogam rhwng pentyrrau o ysbwriel llechi. Mae'r llwybr a'r tomenni bob ochr i'w gweld ar fap Arolwg Ordnans 1888.

Photo of curved wall on the Llwybr Main

Mae waliau'r llwybr yn dangos sgiliau seiri maen y chwarel, oedd yn arbenigwyr ar adeiladu waliau cerrig sychion. Ar droadau llym Llwybr Main, sylwch pa mor ofalus oedd y seiri maen yn adeiladu'r waliau crwm bob ochr i'r llwybr. Adeiladwyd meinciau llechi yn y waliau bob hyn a hyn er mwyn i'r chwarelwyr gael gorffwys arnynt ar eu ffordd i'r gwaith ac adref o'r gwaith. Mae ffotograff 2021 yn dangos un o'r waliau crwm, gyda Llanberis yn y pellter.

Mae tŷ weindio inclên yr A2 ar dop Llwybr Main, lle'r oedd llechi yn cael eu gollwng i Gilfach Ddu. Yn wreiddiol, roedd pont droed fetel yn mynd â cherddwyr dros y traciau rheilffordd prysur y tu allan i'r tŷ weindio. Roedd y traciau yn mynd o gwmpas ysgwydd y bryn i inclên A3 a Phonc Fictoria. Gallwch gerdded i fyny neu i lawr inclêns yr A3 ac A4, gan fynd heibio tŷ weindio'r A3 sydd mewn cyflwr da.

Yn ôl yr hanesydd, Emyr Jones, byddai negesydd cigydd Llanberis yn dringo Llwybr Main bob wythnos gyda basged o gig ar yr asgwrn i'r dynion oedd yn lletya yn y barics yn ystod yr wythnos i goginio lobsgows.

Ymhlith y ffynonellau mae ‘Bargen Dinorwig’ gan Emyr Jones, Tŷ ar y Graig 1980

Cyllidwyd y cyfieithiad hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Map

button-tour-town-quarry Navigation next buttonNavigation previous button