Adfeilion barics y Dre Newydd, Dinorwig

Adfeilion barics y Dre Newydd, Dinorwig

Photo of interior of barracks at Wrysgan slate quarry
Llun mewnol o farics yn chwarel llechi Wrysgan, ger Blaenau Ffestiniog
© Gwasanaeth Archifau Gwynedd

Codwyd y tai bychan hyn yn yr 1870au a dyma lle byddai chwarelwyr oedd yn byw yn rhy bell i fynd adref bob nos yn byw. Mae dwy res o 11 tŷ a godwyd â blociau ithfaen. Gelwid y grwpiau hyn o dai yn farics. Dre Newydd yw enw hwn – Anglesey Barracks yn Saesneg am fod cynifer o chwarelwyr Dinorwig yn dod o Sir Fôn.  Fodd bynnag, nid o Fôn y deuai pawb oedd yn byw yma. 

Teithiai dynion o bob rhan o’r gogledd i weithio yn Ninorwig, y rhan fwyaf o Wynedd a Môn. Roedd y mwyafrif yn mynd adref dros y penwythnos. Perchnogion y chwareli oedd yn codi’r barics i’r gweithwyr fyw ynddynt. Tai bychan, dwy ystafell oeddynt. Roeddent yn oer, yn llaith ac yn ddrafftiog ac roedd yr amodau byw yn wael. 

Pan ddechreuwyd cloddio tua diwedd yr 1780au, dynion lleol oedd y rhan fwyaf o’r chwarelwyr. Aeth llawer i fyw ar dir comin i’r gogledd o’r chwarel.  Rhwng 1806 ac 1814, caewyd y tiroedd comin gan stad y Faenol. Roedd y gweithwyr yn ddig iawn am hyn. 

dinorwig_quarry_anglesey_barracks_2013
Llun diweddar o’r barics. Tynnwyd ym mis Mai 2013.
© Hawlfraint y goron. CBHC

Cynigiodd y stad leiniau o’r tir caeedig i’r gweithwyr ar brydles a’u hannog i godi eu tai eu hunain. Gwrthododd rhai o’r gweithwyr dderbyn y telerau hyn ac aethant ati i greu cymunedau fel Deiniolen a Chlwt y Bont ar dir rhydd-ddaliadol gerllaw. Ymhlith y pentrefi chwarelyddol eraill roedd Cwm y Glo, Llanrug a Bethel.

Byddai chwarelwyr oedd yn byw yn y barics yn mynd i Ddeiniolen, Dinorwig a Llanberis i’r capel neu’r eglwys ac i ymlacio yn y tafarndai. Roedd y gweithwyr o Fôn yn galw Deiniolen yn Llanbabo, ar ôl y pentref o’r un enw ar yr ynys.

Wrth i’r diwydiant llechi dyfu, dechreuodd gweithwyr deithio’n bellach i’r chwarel. I ddechrau, roeddent yn byw mewn cytiau bach yma a thraw yn y chwarel. Roedd y rhain yn aml mewn lleoedd annifyr ac anghysbell. Er enghraifft roedd ponc Aberdaron 600 metr neu 2,000 o droedfeddi uwch lefel y môr.

Cychwynnwyd y broses o godi barics newydd mewn mannau mwy addas gan Gruffydd Ellis, goruchwyliwr yn chwarel Dinorwig. Y cyntaf oedd yr Hen Dre, sef rhes o saith tŷ bychan. Yna, daeth y Dre Newydd, yma, yn is yn y chwarel.

Cewch ddysgu mwy am amodau byw yn y barics ar y dudalen hon.

 

Map