Hen dai’r chwarelwyr, Dinorwig

Hen dai’r chwarelwyr, Dinorwig

dinorwig_quarry_workmens_train
Teithiai gweithwyr o Sir Fôn o'r Fenai i Dinorwig ar y trên chwarelwyr
hwn. Amalthea oedd enw'r locomotif stêm yn y llun
© Gwasanaeth Archifau Gwynedd

Gelwir y safle hwn yn Dre Newydd neu Anglesey Barracks. Mae’r tai hyn, sydd heb do, yn dangos yr amodau byw ar gyfer chwarelwyr oedd yn dod o’r tu allan i ardal Dinorwig. Roedd rhaid iddynt aros yn y barics yn ystod yr wythnos. 

Roedd gan bob un o dai bychan y Dre Newydd ystafell fyw ac ystafell wely. Swllt y mis oedd y rhent. Gan amlaf, byddai aelodau o’r un teulu yn byw gyda’i gilydd ac yn gweithio ar yr un fargen yn y chwarel. 

Ychydig o gysur oedd yn y tai. Canhwyllau neu lamp baraffîn oedd yn rhoi golau. Er bod trydan wedi cyrraedd y chwarel yn 1905, ni chafodd ei osod yn y barics. Roedd gan y dynion dân glo agored i roi gwres ac i’w ddefnyddio i goginio. Ar ôl talu am y glo yng Ngilfach Ddu, roedd rhaid ei gario adref i fyny’r inclên serth. Erbyn hyn, mae Amgueddfa Lechi Cymru yn swyddfeydd y chwarel, Gilfach Ddu. 

Roedd y barics yn ddifrifol o oer yn y gaeaf gan fod gwynt, glaw ac eira’n gallu dod i mewn trwy fylchau rhwng y llechi. Yn ogystal, roedd rhaid i’r dynion rannu eu cartref â phlâu fel chwain a llygod mawr.

Ar fore Llun, byddai rhai dynion yn dod â’u blancedi eu hunain yn ôl i’r barics. Byddent yn eirio eu gwelyau trwy daenu’r blancedi dros fricsen boeth.

Nid oedd cyflenwad dŵr yn dod i’r tai ac roedd rhaid cario dŵr o’r nant agosaf. Yn nes ymlaen, gosodwyd tap mawr y tu allan i roi dŵr i holl dai y Dre Newydd. Nid oedd toiledau’n gweithio â dŵr yn y tai. Roedd y dynion yn rhannu dau doiled a alwent yn ‘privies’ y tu allan. Toiledau pridd oedd y rhain a chaent eu gwagio’n rheolaidd.

Roedd y dynion yn rhannu tasgau’r tŷ, fel sicrhau bod digon o lo, clirio’r grât a chario dŵr. Byddai un o’r dynion yn gyfrifol am ddeffro’r lleill i fynd i’r gwaith yn y bore.

Roedd dynion yn byw yn y Dre Newydd tan 1937 pan gafodd y tai eu condemnio am nad oeddent yn ffit i bobl fyw ynddynt. Cewch ragor o wybodaeth am hanes y barics a’u trigolion ar ein tudalen am yr adfeilion.

Map