Blue Peris, Dinorwig

Blue Peris, Dinorwig

Cartref i olynol reolwyr chwarel Dinorwig yn ystod y 19eg ganrif oedd Blue Peris. Yn 1893 fe’i ddisgrifiwyd fel fod iddo 31 ffenestr, 16 drws, ystafell fwyta, ystafell fyw ac ystafell frecwast. Roedd yn rhan o gymuned y Pendraw a gallwch ddarllen am hyn ar y dudalen hon.

Griffith (neu Gruffydd) Ellis oedd y rheolwr rhwng 1845-1851 yn byw yma. Methodist gyda chefndir mewn mwyngloddio a llechi ydoedd. Dan ei oruchwyliaeth tyfodd y gweithlu o 300 i fwy na 2,400.

Yn ystod yr 1850au a’r 1860au roedd ei fab, Griffith arall, yn byw yma. Daeth ef yn reolwr yn 1860 ac fe’i ‘cysidrwyd fel un o’r daearegwyr ymarferol gorau yng Nghymru, os nad yn hafal i unrhyw un yn y Deyrnas’. Bu farw yn 1869 yn 48 oed ac fe’i claddwyd hefo’i dad ym mynwent Nant Peris. Daeth miloedd allan i dalu’r gymwynas olaf yng ngorymdaith yr angladd.

Yn 1874 symudodd John Davies (1828-1891) yma fel rheolwr o Dol Peris yn Llanberis. Yn wreiddiol o Llandysilio (ger Y Trallwng), daeth ei gyfnod yma’n un cythryblus. Dyn swyddfa oedd o ac yn anwybyddus o weithdrefn chwarel gan arwain at gamgymeriadau echrydus gan roi bywydau mewn perygl. 

Yn 1885-1886 daeth ei ddulliau ef a’i reolwr cyffredinol, WW Vivian, a streic a chloi allan y gweithwyr. Ar un pwynt fe’i taflwyd allan o swyddfa’r chwarel (yn awr yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol) gan griw o chwarelwyr ac yna allan o’r chwarel! Mae un twll yn y chwarel y tu ôl i’r Amgueddfa yn Llanberis wedi ei enwi ar ôl Vivian ac yno mae na ganolfan blymio dŵr heddiw.

Rhoddwyd nod bris yn 1893 o £57.7s (dros £7,000 fel pris heddiw) i beintio ac addurno stafelloedd llawr yma a’r tu allan. Roedd yr ystafell fwyta i gael nenfwd wen a waliau pinc eog!

O’r 1890au ymlaen fe rannwyd yr adeilad a’i rentu i sawl teulu, y mwyafrif ohonynt hefo’r dynion yn gweithio yn y chwarel. Ers 1980 mae wedi bod yn ganolfan addysg awyr agored.

Gyda diolch i Dr Hazel Piece, o The History House, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad. Llyfryddiaeth yn cynnwys: ‘Welsh Slate: History and Archaeology of an Industry’ gan David Gwyn (RCAHMW, Aberystwyth, 2015) a ‘The North Wales Quarrymen 1874-1922’ gan R Merfyn Jones (Caerdydd, 1981).

Cod post: LL55 3ET     Gweld map lleoliad

Gwefan Blue Peris - Canolfan Addysg Awyr Agored

button-tour-town-quarry Navigation next buttonNavigation previous button