Cymuned a choetir Pen Draw, Dinorwig

Cymuned a choetir Pen Draw, Dinorwig

dinorwig_quarry_blast_preparation
Chwarelwyr yn paratoi gelignit i saethu i ryddhau’r llechfaen ar wyneb
y graig. Roedd pobl y Pen Draw yn byw gyda synau’r chwarel bob dydd.
© Gwasanaeth Archifau Gwynedd Archives

Wrth i chi ddilyn y llwybr trwy’r coed, fe welwch rai o’r tai, y siopau ac adeiladau’r chwarel a oedd yn rhan o gymuned Pen Draw. Roedd gan y trigolion wahanol swyddi yn chwarel Dinorwig. Roedden nhw a’u teuluoedd yn byw yn sŵn y chwarel. Mae manylion y siopau a’r pethau a werthent i’w gweld yn y troednodiadau.

Llidiart y Clo: Teulu o’r enw Thomas oedd yn byw yma. Tuag 1910, aeth eu merch, Ellen Louisa, i weini yn Llundain. Bu’n gweithio i sawl teulu amlwg. Pan ddaeth yn ôl i’r Pen Draw, roedd pawb yn rhyfeddu at ei dillad ffasiynol.

Blue Peris: Fferm ar stad y Faenol, perchnogion y chwarel, oedd hon. Fe’i codwyd gan Gruffydd Ellis, un o oruchwylwyr y chwarel, i fod yn swyddfa. Teulu o’r enw Roberts oedd yn ffermio’r tir. Roedd gan berchnogion y chwarel siop fwyd a dillad yma a oedd yn agor ar ddiwrnod cyflog yn unig. Bu rhai  o reolwyr y chwarel yn byw yma a chewch ddarllen amdanynt ar dudalen Blue Peris.

Bron Elidir:  Bu Prif Beiriannydd chwarel Dinorwig, Thomas Morris, yn byw yma. Câi ei alw’n ‘Tomi’. Roedd yn arbenigo yn y dasg anodd o osod ceblau’r rhaffyrdd crog. Roedd rhai chwarelwyr o Fôn yn gweithio yng ngerddi Bron Elidir yn yr haf. Roeddent yn cael pryd o uwd a llaeth enwyn am eu gwaith.

Bron Fuches: Tŷ olaf Pen Draw cyn cyrraedd tomen y chwarel. Roedd William Morris, goruchwyliwr yn y chwarel, yn byw yma rhwng 1842 ac 1894. Cadwai ddyddiadur yn sôn am ei brofiadau yn y gwaith.

Photo of old shop sign at Dinorwig HouseHafodty:  Cartref Gruffydd Ellis rhwng 1815 ac 1845. Roedd yn un o’r gorchwylwyr mwyaf deallus ac uchaf eu parch yn y chwarel. Yn ystod ei gyfnod yn Ninorwig, cynyddodd nifer y chwarelwyr o 300 i 2,400. Magodd ei wraig ag ef ddeg o blant yma.

Cyn diwedd y ganrif, bu nifer o lawfeddygon Dinorwig yn byw yn Hafodty. Y mwyaf adnabyddus oedd Dr R H Mills Roberts, a oedd yn gôlgeidwad dawnus. Cewch ddarllen amdano ar ein tudalen am ysbyty’r chwarel.

Dinorwig House: Mae arwydd y siop ddillad yn dal uwchben y drws (gweler y llun). Roedd llawer o dai Pen Draw yn cael eu defnyddio fel siopau. Yn aml, dim ond am ychydig fisoedd y byddai’r ‘siopau chwarel’ hyn yn para. Roedd rhai’n para’n hirach. Bu Ivy Cottage, No.2 Dinorwig Cottages, yn siop o 1935 tan 1945.

Cod post: LL55 3ET    Map

button-tour-town-quarry Navigation next buttonNavigation previous button

Troednodiadau: Rhestr o siopau Pen Draw
Cofnodwyd y siopau isod gan Hugh Thomas a oedd yn gweithio yn chwarel Dinorwig. Mae’n eu cofio yn ystod y cyfnod y bu’n byw yn Dinorwig Cottages, Pen Draw, rhwng 1915 ac 1990.

  • Dinorwig House: Yr unig un o siopau Pen Draw sy’n dal ag arwydd siop uwchben y drws: R Williams, Grocer, Linen and Woollen Draper.
  • Tragwyddol Stores: Roedd yn gwerthu gwahanol fwydydd i’r pentrefwyr a gweithwyr y chwarel.
  • Blue Peris: Roedd yn gwerthu dillad a bwyd ar ddiwrnod cyflog yn unig.
  • Siop Llew: Gwerthai fwyd, baco, fferins a sigarets.
  • Siop Dic Pencraig: Daeth y siop hon i safle Siop Llew pan gaeodd honno. Roedd yn gwerthu bwyd a pharaffîn.
  • Siop Tan yr Aswy: Gwerthai riliau cotwm a nodwyddau dur.
  • Siop Ifan: Siop sinc oedd hon ac roedd yn boblogaidd iawn. Gŵr a gwraig oedd yn ei rhedeg. Roedd y gŵr, Ifan, yn gwerthu ffrwythau a physgod o gwmpas Dinorwig ar geffyl a chart. Ni chafodd enw’r wraig ei gofnodi ond hi oedd yn gofalu am y siop ym Mhen Draw gan werthu fferins a diodydd pigog. Bu’r adeilad yn siop sglodion wedyn.
  • Siop Kate: Roedd Kate yn ddynes garedig a werthai fwyd a fferins.