Wagen chwarel lechi yr Wyddfa, Llanberis

sign-out

Wagen chwarel lechi yr Wyddfa, Llanberis

Mae'r wagen sy'n cael ei harddangos ar safle'r “Bing” (ardal storio mwyn copr) yn Llanberis yn un o'r wagenni rheilffordd hynaf sydd wedi goroesi yn y byd. Cafodd ei adael mewn chwarel lechi byrhoedlog ar ochr ogledd-orllewinol yr Wyddfa, lle galluogodd yr amgylchedd gwyntog iddo oroesi mwy na 160 mlynedd yn yr awyr agored.

Roedd chwarel Gwaun y To ar ddwy lefel. Adeiladwyd ffordd sylfaenol o'r fferm agosaf er mwyn cludo'r llechi i Lanberis, ond caeodd y chwarel yn sydyn. Mae miloedd o lechi toi wedi’u tocio yn dal yno heddiw. Mae'r safle, nad oes iddo fynediad cyhoeddus, islaw'r bont reilffordd dros Lwybr Llanberis (ger gorsaf Halfway).

Credir bod y wagen yn dyddio o'r 1840au ac mae'n debyg mai hwn oedd yr unig un yn y chwarel. Roedd yn cludo llechi o fewn y chwarel. Cafodd ei adael ar ben tomen o lechi gwastraff, lle roedd y gwynt yn sychu lleithder yn gyflym. Ym mhen amser, cafodd ei wthio oddi ar y domen a dechrau rhydu. Tynnwyd y wagen i'w chadw ym 1994 ac fe'i hatgyweirwyd gan Francis Stapleton o Reilffordd Ffestiniog.

Defnyddiwyd miloedd yn rhagor o wagenni o’r math hwn yn chwareli Gogledd Cymru, gan gynnwys yr un a arddangosir y tu allan i siop Spar Llanberis. Mae’r enghraifft gynnar hon yn wahanol i wagenni diweddarach ar sawl cyfrif, yn enwedig lleoliad yr olwynion – yn agos at ei gilydd a thuag at un pen. Mae ffrâm y siasi, wedi'i wneud o ddau drawst derw, yn ddyfnach nag ar wagenni diweddarach. Roedd y nytiau ar folltau’r ffrâm wreiddiol yn chwe-ochrog, eu defnydd cynharaf a gofnodwyd ar unrhyw wagen lechi.

Mae un pen i'r wagen yn agored, er mwyn i'r llechi lithro allan pan godwyd y corff o'r pen arall. Mae'r ochrau yn culhau ychydig tuag at y pen caeëdig, er mwyn hwyluso symudiad y llechi wrth dipio. Sylwch hefyd ar y corneli cyrliog wrth y pen agored - dolenni hwylus i chwarelwyr pan fyddent yn gwthio'r wagen.

Gyda diolch i Francis Stapleton a Ken Jones

Cod post: LL55 4TW    Map