Y Lôn Haearn, Sarn Bach
Mae’r lôn fechan hon yn rhan o ffordd a adeiladwyd yn y 19G i gario mwyn haearn o chwarel Tan yr Orsedd ger y Bwlch, Llanengan i’r llongau ym Mhorth Fawr.
Tua 1839 roedd y St Tudwals Iron Ore Company, gyda buddsoddiad ariannol gan anturiaethwyr o Lundain, wedi darganfod mwyn haearn ar ran o dir Robert Griffiths, fferm y Bwlch, ac wedi ceisio am grantiau i adeiladu ffordd haearn i gario’r mwyn i lanfa newydd ym Mhorth Fawr. Yn 1840 rhoddwyd hysbyseb yn y papurau yn gwahodd cynigion i osod sylfaen i’r ffordd, ac erbyn 1842 roedd wedi cael ei hadeiladu ac yn cael ei defnyddio at bwrpas y chwarel. Defnyddid ceffylau a throl i wneud y gwaith cario, a chȃi’r mwyn haearn ei allforio i lefydd fel Ynys Las, Aberdyfi, a Saltney yn Swydd Gaer.
Am ryw ddeng mlynedd profodd y cwmni lwyddiant ond, fel yn hanes llawer o weithfeydd cyffelyb bryd hynny, daeth tro ar fyd. Rhoddwyd y gorau i’r gwaith, a bu’r chwarel yn segur am rai blynyddoedd. Erbyn1862 codwyd mwy o arian ac ailgychwynnwyd cloddio..
Y tro hwn, i geisio gwella ffortiwn y gwaith, gyrrwyd profion o’r garreg i’r meistri haearn yn Ne Cymru, ond yn anffodus doedd ei hansawdd ddim i fyny ȃ gofynion y dynion hynny; roedd ynddi ormod o asid ffosfforig. I geisio achub eu buddsoddiad crewyd cwmni o’r newydd ym 1864, The Caernarvon Iron Company, gyda’r bwriad o adeiladu dwy ffwrnais eu hunain ar dir cyfagos i’r chwarel ond methiant fu’r fenter honno hefyd. Parhaodd y chwarel i gynhyrchu rhyw gymaint am rai blynyddoedd wedyn, ond cau fu ei hanes yn y diwedd.
Rhyw ugain mlynedd wedi adeiladu’r ffordd haearn, agorwyd pump o weithfeydd plwm mewn gwahanol fannau ar ei hyd; Deucoch yr ochr uchaf i’r ffordd fawr, Pantgwyn lathenni o’r fan hon, yna Tanbwlch a chyn cyrraedd y lanfa ym Mhenrhyn Du, gwaith y Faenol. Er na fu’r gweithfeydd hyn yn gyfrifol am adeiladu’r lôn haearn, bu ei lleoliad yn fanteisiol iawn i’w datblygiad. Gwaith Pantgwyn oedd yr olaf ohonynt i gau a hynny ym 1893.
Gyda diolch i Diogelu Enwau Llanengan
Cod post: LL53 7BG Map