Llwybr Arfordir Cymru
Llwybr Arfordir Cymru yw'r llwybr cyntaf yn y byd o amgylch arfordir cyfan gwlad. Agorwyd y llwybr yn swyddogol ym mis Mai 2012. Mae’n rhedeg 1,400 km o Gaer i Gas-gwent – yn cynnwys y cylch o amgylch ynys Môn.
Gallwch ddefnyddio bad-codau HistoryPoints ar hyd y ffordd i ddysgu am hanes y lleoedd byddwch yn pasio.
Sut i ddilyn Taith Llwybr Arfordir Cymru HistoryPoints:
Mae'n syml - cyn belled â'ch bod yn cadw mewn cof ai clocwedd neu wrthglocwedd ydi cyfeiriad y llwybr o amgylch Cymru!
Clocwedd = pe baech yn cerdded yr holl ffordd o Gas-gwent i Gaer, byddech yn mynd clocwedd o amgylch arfordir Cymru. Ar arfordir Gogledd Cymru, mae hyn yn golygu mynd o’r gorllewin i'r dwyrain gan amlaf – ond efo llawer o eithriadau! Rydym wedi labeli’r cyfeiriad yma De-Gog, i ddynodi o Dde Cymru i Ogledd Cymru.
Gwrthglocwedd = pe gerddech o Gaer i Gas-gwent, byddech yn mynd gwrthglocwedd o amgylch arfordir Cymru. Rydym wedi labeli’r cyfeiriad yma Gog-De.
Felly, edrychwch am yr eiconau clocwedd a gwrthglocwedd wrth ymyl logo Llwybr Arfordir Cymru ar HistoryPoints.org – a chliciwch ar yr eicon perthnasol i ddarganfod yr HiPoint nesaf yn y cyferiaid yr ydych wedi ei ddewis.
Gallwch lawrlwytho mapiau o LAC ar y wefan hon.
Mae’r lluniau ar y dudalen hon yn dangos dim ychydig o'r HiPoints ar hyd LAC. Cliciwch ar lun er mwyn darllen am yr HiPoint hwnnw.