Twyni Gronant

Twyni Gronant, ger Prestatyn

Gellir dadlau mai'r twyni tywod sy’n ymestyn i’r dwyrain o Brestatyn ydi’r rhai mwyaf sylweddol a chyfan o holl dwyni arfordir Gogledd Cymru. Mewn mannau eraill, mae canrifoedd o ddatblygiad diwydiannol, twristiaeth a gweithgareddau dynol eraill wedi lleihau neu ddileu y twyni a arferai ymestyn ar hyd yr arfordir.

Mae twyni Gronant yn cynnal planhigion prin, gan gynnwys celyn y môr, llathlys y môr a tegeiran bera (pyramidal orchid). Mae anifeiliaid prin yr ardal yn cynnwys yr ysgyfarnog, ehedydd, mining bee a sandhill rustic moth. Mae'r llyffant y twyni (natterjack toad) wedi cael ei ailgyflwyno, ac o 2003 i 2006 rhyddhawyd madfallod y tywod ifanc ar dwyni Gronant. Mae madfallod y tywod, sy'n ehangach ac yn fwy na madfallod cyffredin, yn gynhenid ​​i'r twyni o arfordir Gogledd Cymru ond wedi cael eu difa gan effaith gweithgaredd dynol ar eu cynefinoedd.

Ym mhen dwyreiniol twyni Gronant mae traethell raean lle mae’r morwennol fychan, cwtiad torchog ac adar eraill yn nythu. Hwn ydi un o’r poblogaethau mwyaf cynhyrchiol o’r wennol fechan ym Mhrydain. Mae mwy na 6% o boblogaeth Prydain yn atgynhyrchu yng Gronant. Dyma'r unig le yng Nghymru lle y bridiau’r rhywogaeth. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gwarchod yr adar swil yma rhag ymyrraeth ers 2005. Os hoffech chi weld yr adar yn ystod y tymor nythu (gwanwyn i ddiwedd yr haf), peidiwch â cherdded at y draethell raean ond defnyddiwch y llwyfan gwylio a adeiladwyd yn bwrpasol, sydd yn agos at Lwybr Arfordir Cymru.

Mae'r twyni a'r traeth yma wedi bod yn boblogaidd ers amser maith ar gyfer hamddena. Ym 1888 daeth dau frawd a drigai’n lleol yma i chwarae. Tynnodd yr hynaf, Thomas Davies, 6 oed, ei ddillad er mwyn ymdrochi mewn "gwter" ar y traeth, lle boddodd. Yn y pen draw, aeth ei frawd â'r dillad adref a dweud wrth ei dad fod Tommy yn ymdrochi ac yn gwrthod dod allan o'r dŵr. Claddwyd y bachgen ym mynwent eglwys Llanasa yn yr un bedd â'i hen ewythr a'i hen-hen ewythr – a oedd hefyd wedi boddi. Roedden nhw ymhlith y 13 aelod o’r criw a fu farw yn nhrychineb bad achub Parlwr Du ym mis Ionawr 1857.

Map

Gwefan prosiect y morwennol fechan

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button