Cymraeg Prestatyn Nova Centre
Canolfan Nova Prestatyn
Crewyd pwll nofio awyr agored ar y safle hwn ym 1923. Cai'r pwll ei fwydo yn wreiddiol gan ddŵr y môr. Fe'i drowyd yn bwll dan do ym 1985, pan adeiladwyd y Ganolfan Nova a gosodwyd to uwchben y pwll gwreiddiol.
Mae i’r safle hanes hir o adloniant. Darparwyd neuadd ddawns yma o'r cychwyn cyntaf, ym 1923. Pan gymerodd Cyngor Dosbarth Trefol Prestatyn drosodd ym 1958, ailddatblygwyd y safle ac fe gafodd enw newydd, sef y Lido Brenhinol. Yn fuan daeth y Starlight Suite yn leoliad cerddorol bwysig. Chwaraeodd y Beatles yma ym 1962, y Rolling Stones ym 1963 a Status Quo ym 1969.
Cyngor Sir Ddinbych sydd bellach yn berchen ar y Ganolfan Nova ac yn ei reoli. Ailagorodd y ganolfan yn 2015 ar ôl adnewyddu. Mae’r pwll nofio 25-metr yn dal i fodoli ac hefyd mae cyfleusterau ffitrwydd, caffi, bwyty gyda golygfeydd at y môr, ystafelloedd ar gyfer digwyddiadau, ac ardal chwarae meddal tri llawr ar thema’r traeth.
Côd post: LL19 7EY
Gwefan Canolfan Nova Prestatyn
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |