Taith Llwybr Clawdd Offa
Llwybr troed 285km o hyd ydi Llwybr Clawdd Offa, a agorwyd ym 1971. Mae’n dilyn y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac yn croesi ucheldiroedd Clwyd. Mae llawer o'r llwybr gyfochr â’r ffos a banc a adeiladwyd ar gan y Brenin Offa yn yr 8fed ganrif i amddiffyn teyrnas Mercia rhag ymosodiadau Cymreig.
Mae'r llwybr yn croesi'r ffin mewn nifer o fannau. Mae ein taith QR yn cynnwys mannau o ddiddordeb ar hyd y llwybr yng Nghymru. Mae'n dechrau yng Nghanolfan y Nova, Prestatyn, ar Lwybr Arfordir Cymru, ac yn gorffen yn y Boat Inn yng Nghas-gwent, ger y darian gron sy'n nodi lle mae Llwybr Arfordir Cymru yn cwrdd â Llwybr Clawdd Offa yn Ne Cymru.
Gwyliwch allan am godau QR HistoryPoints, ar sticeri neu blaciau gwyrdd, ac yna sganiwch y QR am wybodaeth am y lleoliad hwnnw. Yna defnyddiwch yr eiconau llywio ar waelod y dudalen i weld ble y cewch weld y QR nesaf wrth i chi barhau i gerdded.
Os ydych yn cylchfordwyo Cymru ar droed, byddwch yn dod o hyd i godau QR HistoryPoints ar gannoedd o leoedd o ddiddordeb ar ein taith Llwybr Arfordir Cymru.
Mae mapiau a gwybodaeth ymarferol arall am Lwybr Clawdd Offa ar gael ar wefan y Llwybrau Cenedlaethol.
I weld y daith QR ar eich cyfrifiadur, dewiswch un o'r pwyntiau mynediad isod:
Arfordir Prestatyn
Canol tref Prestatyn
Tremeirchion
Llandegla
Eglwyseg, ger Llangollen
Trefor
Dyffryn Ceiriog
Llanymynech
Four Crosses
Pool Quay
Leighton, ger Y Trallwng
Tref-y-Clawdd
Discoed, ger Llanandras
Y Gelli Gandryll
Llangattock Lingoed, ger Y Fenni
Trefynwy
Cas-gwent