Cymraeg Remnants of prehistoric forest, Rhyl

Gweddillion coedwig cynhanesyddol , Splash Point , Y Rhyl

Photo of prehistoric tree stumpMae olion coedwig cynhanesyddol yn gorwedd o dan y tywod yma. Gellir gweld rhai bonion coed o bryd i'w gilydd, yn dibynnu ar y llanw. Mae’r bonion a’u gwreiddiau mewn mawn sydd o dan y tywod morol, ac wedi cael eu cadw gan yr amgylchedd dyfrlawn sydd wedi parhau ers i’r coed dyfu, o bosibl 6,000 o flyneddoedd yn ôl neu fwy.

Yn 1893 , aeth cannoedd o bobl i ymweld â'r traeth i weld gweddillion y goedwig, ar ôl iddo gael ei ddatgelu gan y llanw am y tro cyntaf mewn 80 mlynedd. Gwnaeth syrfëwr y dref, Mr R Hughes, fap a oedd yn dangos 30 o goed a’u gwreiddiau lle y tyfasant ac hefyd boncyffion llorweddol. Darganfuwyd mai derw a llwyfen oedd nifer o'r coed, a bedw, gwern a chyll oedd y gweddill, mae’n debyg.

Photo of prehistoric tree trunkNid rhain ydi’r unig olion cynhanesyddol a geir yn yr ardal hon. Darganfuwyd pen bwyell o Oes y Cerrig gan Mr TA Glenn o Abergele yn 1926. Roedd y pen bwyell wedi ei wneud o garreg o Graig Lwyd, Penmaenmawr, ac yn mesur 21.5cm x 8cm (8.5" x 3.125"). Mae'r pen bwyell yn awr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, ynghyd ag un tebyg (ond llai) a ddaeth i’r golwg dair wythnos yn ddiweddarach.

Yn y 1980au cynnar, daeth Mr P Brooks o hyd i gorn carw wrth chwilio gyda dyfais synhwyrydd metel. Yn ôl archeolegydd y sir, roedd y corn yn dyddio o 2,000 i 5,000 o flynyddoedd yn ôl.

Am fwy o wybodaeth , gweler tudalen we Clwb Hanes Y Rhyl ar y goedwig foddedig.

Gyda diolch i Ruth Pritchard, o Glwb Hanes Y Rhyl

Map o’r lleoliad

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button